Gwleidyddion yn cael 'carthion a raseli drwy'r post'

  • Cyhoeddwyd
amlenFfynhonnell y llun, Getty Images

Mae carthion a llafnau rasel ymhlith y pethau sydd wedi cael eu hanfon drwy'r post i wleidyddion yng Nghymru, yn ôl adroddiad newydd.

Dywedodd y Gymdeithas Diwygio Etholiadol (ERS) fod rhai o'r esiamplau yn "wirioneddol syfrdanol, brawychus a throseddol".

Cafodd arolwg yr ERS ei anfon at bob Aelod Cynulliad, Aelod Seneddol, Aelod Seneddol Ewropeaidd a chynghorydd o Gymru.

Dywedodd 12 o'r rheiny gafodd eu holi eu bod wedi dioddef rhyw fath o gamdriniaeth.

'Slap ar fy mhen ôl'

Roedd rhai o'r profiadau gafodd eu crybwyll yn cynnwys:

  • derbyn carthion drwy'r post mewn cerdyn San Ffolant;

  • agor amlen gyda llafnau rasel yn sownd ar y tu mewn, wrth wneud gwaith gweinyddol mewn swyddfa gwleidydd;

  • cael carreg ac yna côn traffig wedi'u taflu at flaen y swyddfa, gan dasgu gwydr dros un o'r gweithwyr.

Dywedodd un o'r gwleidyddion gafodd eu holi eu bod wedi derbyn "cynigion rhywiol amhriodol gan etholwyr yn ystod cymorthfeydd ac yn ystod sesiynau canfasio drws i ddrws".

Ychwanegodd un arall fod "un aelod wedi rhoi slap ar fy mhen ôl ac un arall wedi ceisio fy nhynnu fi o dan goeden a fy nghusanu".

cynulliad
Disgrifiad o’r llun,

Mae ERS Cymru yn dweud bod yr aflonyddu'n dychryn rhai pobl i ffwrdd o fod eisiau sefyll i fod yn wleidyddion

Yn ôl awduron yr adroddiad, aflonyddu a cham-drin oedd y prif resymau oedd yn codi ymhlith pobl oedd yn sôn am beth wnaeth eu hysgogi i beidio sefyll mewn etholiadau.

Dywedodd cyfarwyddwr ERS Cymru, Jess Blair fod angen i bleidiau gwleidyddol Cymru ddatblygu cod ymddygiad i ddelio â'r mater.

"Os 'dych chi'n edrych ar wleidyddiaeth o'r tu allan, os 'dych chi'n berson arferol yn eistedd gartref yn meddwl y gallwn i wneud hynna, a chi'n meddwl ydych chi eisiau cael eich sarhau ar y cyfryngau cymdeithasol, neu fod i ffwrdd o'ch teulu hanner yr wythnos, teithio pellteroedd hir, mae'r rheiny'n rhwystrau mawr," meddai.

"Mae'n fwy na dim ond sefyll dros blaid wleidyddol. Mae angen taclo realiti bywyd cyhoeddus."

'Ydych chi'n ei dderbyn?'

Fe wnaeth rhai gwleidyddion gael eu cyfweld ar gyfer yr arolwg, gan gynnwys arweinydd Llafur Cyngor Casnewydd, Debbie Wilcox.

Yn ei thystiolaeth hithau dywedodd: "Rwyf wedi bod yn gynghorydd ers 14 mlynedd, rwyf wedi ennill pedwar etholiad ac nid wyf erioed wedi cael cymaint o drafferth neu anghydfod ag yr wyf wedi'i gael yn ystod y ddwy flynedd ddiwethaf."

Dywedodd 40 o'r rheiny a ymatebodd eu bod wedi cael eu sarhau ar-lein, a dywedodd un AC ei bod wedi ei sarhau'n hiliol.

Bethan Jenkins
Disgrifiad o’r llun,

Dywedodd Bethan Sayed fod y sylwadau mae rhai gwleidyddion yn ei dderbyn yn "ymylu ar fod yn gamdriniaeth"

Dywedodd AC Plaid Cymru dros Orllewin De Cymru, Bethan Sayed: "Ers i mi briodi â rhywun o India, rwyf wedi profi mwy o ymosodiadau hiliol eu naws nag ydw i erioed wedi profi o'r blaen, wrth reswm.

"Felly, mae'n rhaid i chi ddelio â hynny hefyd, ac oherwydd, wyddoch chi, a ydych chi'n adrodd y mathau hynny o bethau?

"Ydych chi'n ei dderbyn gan ddweud nad wyf am fod yn ddioddefwr neu a ydych chi'n rhan o'r broblem oherwydd nad ydych chi'n eu hadrodd?

"Rwy'n credu ei bod yn sefyllfa anodd iawn i fod ynddi fel cynrychiolydd etholedig."

Fe wnaeth 266 o wleidyddion ymateb i arolwg yr ERS, gan gynnwys 224 o gynghorwyr, 26 o ACau, 11 o ASau, ac un ASE.