Y Bencampwriaeth: Abertawe 3-1 Stoke

  • Cyhoeddwyd
Gôl Daniel JamesFfynhonnell y llun, Asiantaeth Huw Evans
Disgrifiad o’r llun,

Roedd rheolwr Cymru, Ryan Giggs, yn gwylio o'r eisteddle wrth i Daniel James serennu i'r Elyrch

Mae gobeithion Abertawe o sicrhau lle yn y gemau ail-gyfle yn parhau'n fyw heno wrth iddyn nhw guro Stoke.

Cafodd Daniel James a Mike van der Hoorn gôl yr un yn yr hanner cyntaf i'r Elych, gyda James McClean yn darganfod cefn y rhwyd i Stoke am eu unig gôl o'r gêm.

Fe welodd amddiffynwyr Stoke, Bruno Martins Indi a Tom Edwards, ill dau gerdyn coch am daclau anghyfreithlon yn erbyn James, cyn i Oli McBurnie sicrhau'r fuddugoliaeth i Abertawe.

Dyma ydy'r pumed tro yn olynnol i'r Elyrch ennill eu gem gartref.

Mae Abertawe saith pwynt i ffwrdd o safleoedd y gemau ail-chwarae.