Oedi wedi i ddyn ddifrodi trên ym Mro Morgannwg

  • Cyhoeddwyd
difrod ffenest flaen y trenFfynhonnell y llun, Trafnidiaeth Cymru
Disgrifiad o’r llun,

Cafodd ffenest flaen y trên ei fandaleiddio gan ddyn a gafodd ei daflu oddi ar y gwasanaeth

Bu cryn oedi ar rai gwasanaethau rheilffordd yn y de-ddwyrain fore Mercher wedi i ddyn achosi difrod i drên.

Cafodd y dyn ei daflu oddi ar y trên yng ngorsaf Eastbrook ym Mro Morgannwg, cyn mynd ati i fandaleiddio ffenest flaen y trên.

Nid oedd modd i'r trên adael yr orsaf yn sgil y difrod, felly cafodd gwasanaethau rhwng Caerdydd, Pontypridd, Merthyr Tudful a'r Barri a Phen-y-bont ar Ogwr eu hamharu.

Cadarnhaodd Heddlu Trafnidiaeth Prydain iddyn nhw gael eu galw i ddigwyddiad toc cyn 08:15 fore Mercher yn dilyn "difrod troseddol" i drên.

Dywedodd llefarydd ar eu rhan: "Yn dilyn ffrae gyda'r ceidwad, adroddwyd i ddyn daflu darn o falast ar y trên, gan chwalu'r ffenest flaen.

"Cafodd dyn 22 oed o'r Barri ei arestio dan amheuaeth o gyflawni'r difrod ac mae yn y ddalfa ar hyn o bryd."

Ffynhonnell y llun, Trafnidiaeth Cymru
Disgrifiad o’r llun,

Ni fu modd i'r trên adael yr orsaf yn sgil y difrod i'r ffenest flaen

Dywedodd llefarydd ar ran Trafnidiaeth Cymru: "Gofynnwyd i'r cwsmer adael y trên yn Eastbrook bore 'ma.

"Yn dilyn hynny, fe wnaeth y cwsmer fandaleiddio ffenest flaen y gyrrwr, gan olygu nad oedd modd i'r trên adael yr orsaf, gan achosi gryn oedi ar y rhwydwaith.

"Cafodd Heddlu Trafnidiaeth Prydain eu galw ac rydym yn gweithio'n agos gyda nhw ynglŷn â'r digwyddiad.

"Diolchwn i'n cwsmeriaid am eu hamynedd ac rydym yn ymddiheuro am yr anghyfleustra a achoswyd."