Carcharu pensiynwr am annog cam-drin rhywiol dros y we

  • Cyhoeddwyd
Peter BoothFfynhonnell y llun, Heddlu Gogledd Cymru
Disgrifiad o’r llun,

Cafodd Peter Booth ei garcharu am saith mlynedd a phedwar mis

Mae pensiynwr wedi cael ei garcharu am 88 mis am ddefnyddio'r we i annog camdriniaeth rhywiol o blant yn Ynysoedd y Pilipinas.

Clywodd Llys y Goron Caernarfon bod Peter Booth - sy'n 74 oed ac o Landudno - wedi gwneud 250 o daliadau gwerth £19,400 i wyth o bobl rhwng Medi 2015 a mis Mehefin y llynedd.

Roedd wedi honni ei fod wedi rhoi cymorth ariannol i "ladyboy".

Ond fe ddywedodd Richard Edwards ar ran yr erlyniad fod Booth wedi bod yn "ymwneud ag annog camdrin rhywiol er mwyn rhoi pleser rhywiol iddo'i hun".

Fe gyfaddefodd Booth i achosi ac annog ecsbloetio plant chwech a naw oed yn rhywiol.

Fe wnaeth hefyd gyfaddef dosbarthu pornograffi plant, cymryd fideo anweddus o blentyn, a chreu cannoedd o luniau a fideos anweddus.

'Marw yn y carchar'

Dywedodd y barnwr Timothy Petts wrth Booth: "Hyd nes i'r troseddu hwn ddod i'r amlwg roeddech o gymeriad da, rhywbeth rydych chi wedi ei daflu i ffwrdd gyda'ch gweithredoedd gan ddinistrio'r berthynas oedd gennych gyda'ch teulu."

Cafodd ei garcharu am saith mlynedd a phedwar mis, a chafodd orchymyn atal niwed rhywiol.

Dywedodd y bargyfreithiwr ar gyfer yr amddiffyn, Matthew Curtis fod Booth yn arfer bod yn briod, a'i fod wedi ceisio lladd ei hun yn dilyn ei arestio.

Ychwanegodd bod "posibilrwydd real iawn" y byddai Booth yn marw yn y carchar.