Dechrau penigamp i dymor Morgannwg

  • Cyhoeddwyd
Marnus LabuschagneFfynhonnell y llun, Huw Evans agency
Disgrifiad o’r llun,

Mae Marnus Labuschagne wedi ennill pum cap i Awstralia

Ar ddiwrnod cyntaf llawn y tymor criced newydd, mae dau enw newydd wedi sicrhau diwrnod gwych i Forgannwg a'u hyfforddwr newydd Matthew Maynard.

Yn ystod yr haf fe wnaeth y clwb arwyddo dau fatiwr - Marnus Labuschagne a Billy Root (brawd capten Lloegr, Joe Root) - ac fe wnaeth y ddau sgorio dros 100 yng Ngerddi Soffia ddydd Iau.

Wedi i Forgannwg alw'n gywir a dewis batio yn erbyn Sir Northants, fe gollodd y tîm cartref wicedi yn gynnar yn y batiad.

Ond daeth Labuschagne a Root at ei gilydd i sefydlogi pethau cyn creu partneriaeth o dros 140 am y bedwaredd wiced.

Pan aeth Labuschagne am 121, daeth Kiran Carlson i ymuno â Root ac fe wnaethon nhw'n well fyth.

Aeth Root ymlaen i fod yn 126 heb fod allan, ac fe aeth Carlson heibio'r cant hefyd cyn diwedd y chwarae.

Bydd Morgannwg yn dechrau'r ail ddiwrnod ar 433 am 4 wiced.