Y Bencampwriaeth: Queens Park Rangers 4-0 Abertawe

  • Cyhoeddwyd
Tomer Hemed scores the third goalFfynhonnell y llun, Huw Evans picture agency
Disgrifiad o’r llun,

Tomor Hemed yn rhwydo gôl rhif tri

Mae gobeithion yr Elyrch o gyrraedd y gemau ail gyfle y Bencampwriaeth ar ben i bob pwrpas ar ôl cweir 4-0 oddi cartref yn Loftus Road.

Roedd disgwyliadau Abertawe yn uchel ar ôl ennill pedwar gêm yn olynol ond y tîm cartref ddechreuodd ar dân.

Ar ôl 15 munud roedd Rangers 3-0 ar y blaen, gôl Darnell Furlong a dau i Tomer Hemed.

Daeth unrhyw obaith o achub unrhyw beth o'r gêm i ben wrth i Massimo Luongo ychwanegu gôl rhif pedwar ar ôl 54 munud.

Dywedodd rheolwr Abertawe, Graham Potter: "Roedd QPR yn well tîm na ni heddiw ac yn haeddu'r fuddugoliaeth. Rwy'n ymddiheuro i'n cefnogwyr oedd wedi teithio i'r gêm."