Diweithdra ar dwf yng Nghymru, disgyn yng ngweddill y DU
- Cyhoeddwyd
Mae diweithdra yng Nghymru ar gynnydd tra bod y ffigwr yng ngweddill y Deyrnas Unedig yn parhau i ostwng.
Mae ffigyrau am y cyfnod rhwng Rhagfyr y llynedd a mis Chwefror eleni yn awgrymu bod 4.5% o bobl dros 16 oed yng Nghymru yn ddiwaith - 6,000 yn fwy na'r tri mis blaenorol.
Yn y DU gyfan, roedd 3.9% o bobl dros 16 yn ddiwaith - y lefel isaf ers mis Ionawr 1975.
Mae'r ffigyrau diweddaraf gan y Swyddfa Ystadegau Gwladol hefyd yn dangos fod 12,000 yn llai o bobl mewn gwaith yng Nghymru rhwng Rhagfyr ac Ionawr, o'i gymharu â rhwng Medi a Thachwedd y llynedd.