Apêl Rheilffordd Llangollen yn llwyddo
- Cyhoeddwyd
Mae apêl i godi £10,000 i atgyweirio rhan olaf y lein rhwng Llangollen a Chorwen wedi codi mwy na'r nod, yn ôl llefarydd ar ran Rheilffordd Llangollen.
Mae 10 milltir (16km) o drac eisoes wedi'i osod ar gyfer Rheilffordd Llangollen, rhwng Llangollen a Chorwen, gyda phlatfform arbennig wedi ei adeiladu ar derfyn y llinell.
Ond roedd arglawdd yn ffurfio bwlch rhwng yr orsaf newydd a gweddill y lein.
Cafodd y bwlch ei greu er mwyn galluogi mynediad i fferm garthffosiaeth ac roedd angen ei lenwi.
Dywedodd George Jones o Ymddiriedolaeth Rheilffordd Llangollen: "Yr wythnos hon mae contractwr gydag offer addas wedi bod yn dod â phridd - 10 tunnell ar y tro - i'w wasgaru ar waelod yr arglawdd er mwyn llenwi twll o hyd at 10 troedfedd.
"Pan fydd y bwlch wedi'i lefelu fe fydd modd cysylltu'r orsaf newydd â gweddill y rheilffordd."
Yn gynharach eleni dywedodd llefarydd bod datblygiad yr orsaf newydd yng Nghorwen wedi costio dros filiwn o bunnoedd, gyda swmp y gwaith hwnnw wedi dod o lafur gwirfoddolwyr.
Nodwyd hefyd, yr adeg hynny, petai yr ymdrech i godi £10,000 yn llwyddo y byddai modd agor yr orsaf newydd rhywbryd eleni.
Straeon perthnasol
- Cyhoeddwyd1 Mawrth 2019