Rhybudd i deithwyr cyn penwythnos prysur y Pasg

  • Cyhoeddwyd
Aberystwyth
Disgrifiad o’r llun,

Mae disgwyl i Aberystwyth fod yn boethach na rhai o ganolfannau gwyliau Môr y Canoldir dros y Pasg

Daeth rhybudd i yrwyr y gallai teithio ar y ffyrdd dros y Pasg gymryd teirgwaith yn hirach oherwydd tywydd braf.

Y disgwyl yw y bydd 27 miliwn o geir ar ffyrdd y Deyrnas Unedig.

Yng Nghymru y disgwyl yw mai traffordd yr M4 ger Casnewydd fydd y ffordd brysuraf dros yr ŵyl.

Yn ogystal bydd gorsaf drenau Euston yn Llundain ar gau ar gyfer gwaith cynnal a chadw, sy'n golygu y bydd teithiau i Gymru ar drenau yn cael eu hamharu.

O ran y tywydd, Aberystwyth a Chaerfyrddin fydd y trefi poethaf dros y penwythnos, gyda'r tymheredd yn cyrraedd 22C ar ddydd Gwener y Groglith, a bydd y tywydd poeth yn parhau ddydd Sadwrn.

Ffynhonnell y llun, Geograph/Lewis Clarke
Disgrifiad o’r llun,

Yr M4 ger Casnewydd fydd y ffordd brysuraf yng Nghymru

Dywedodd cyflwynydd tywydd BBC Cymru, Behnaz Akhgar bod y tymheredd yn mynd i fod bron ddwywaith cymaint â'r cyfartaledd ar gyfer mis Ebrill, sef 12C.

"Cyfuniad o aer poeth o'r de a phwysedd uchel sy'n mynd i ddod â thywydd hyfryd i ni dros y Pasg," meddai.

"Dylai pawb fod yn ymwybodol y bydd lefel y paill yn uchel hefyd."

Mae cymdeithas foduro'r RAC hefyd yn rhybuddio y bydd ffyrdd y tu allan i Gymru yn eithriadol o brysur hefyd, gan gynnwys yr M5 i'r de yn ardal Bryste a'r M6 yn Sir Gaer.

Oherwydd gwaith ar y rheilffyrdd, bydd bysiau'n cludo teithwyr yn lle trenau rhwng Casnewydd a Bryste gan y bydd Twnnel Hafren ar gau.