Cweir i Forgannwg yn y Cwpan Undydd

  • Cyhoeddwyd
de langeFfynhonnell y llun, Huw Evans picture agency
Disgrifiad o’r llun,

Marchant de Lange oedd prif sgoriwr Morgannwg gydag ond 36 rhediad

Ar ddiwrnod cynta'r Cwpan Undydd, fe gafodd Morgannwg gweir o 180 rhediad gan Essex yng Ngerddi Soffia.

Ar ôl galw'n gywir, fe wnaeth Morgannwg benderfynu maesu.

Roedd hynny'n ymddangos yn gamgymeriad wrth i Essex lwyddo i sgorio 326 am saith wiced yn eu 50 pelawd nhw, gyda Varun Chopra'n serennu gyda batiad o 111.

Fe gafodd y tîm cartref ddechreuad ofnadwy i'w batiad nhw hefyd, ac yn fuan roedd Morgannwg yn 67 am bum wiced, ac yna 82 am saith.

Er i'r capten Chris Cooke a Marchant de Lange sgorio'n gyflym am gyfnod, roedd hi'n rhy hwyr i achub y gêm, a phan ddaeth troellwr Lloegr, Ravi Bopara i fowlio a chipio wicedi'r ddau roedd y cyfan ar ben.

Collodd Morgannwg eu wiced olaf gyda'r sgôr ar 146 - colled o 180 rhediad.