Galw am amddiffyn cynefinoedd wedi cwymp o 80% y gylfinir
- Cyhoeddwyd
Mae niferoedd y gylfinir yng Nghymru wedi gostwng 80% ers 1990, yn ôl RSPB Cymru.
Mae'r elusen yn dweud y dylai ffermwyr gael eu cymell i greu cynefin addas i'r adar drwy'r system daliadau newydd ddaw i rym yn dilyn Brexit.
Dim ond tua 400 pâr o ylfinirod sy'n weddill yng Nghymru.
Dywedodd Undeb Amaethwyr Cymru na ddylai natur gael blaenoriaeth dros yr economi wledig.
'Helpu'r ffermwyr helpu'r gylfinir'
Ar hyn o bryd, mae RSPB Cymru yn gweithio i wella cynefinoedd ac amddiffyn y gylfinir mewn lleoliadau fel Llanycil, Gwynedd, ac Ysbyty Ifan, Sir Conwy.
Mae'r dirywiad yn niferoedd yr aderyn ynghlwm ag arferion ffermio, yn ôl Rhian Pierce, sy'n swyddog cadwraeth gyda'r RSPB.
"Mae 'ne lot o dir wedi cael ei wella, ei sychu, ac mae'r pryfaid mae'r gylfinir yn dibynnu arnyn nhw angen tir gwlyb," meddai.
"A'r ail beth ydy'r predation sy'n mynd ymlaen y dyddie yma. Mae 'ne lot o goed yn cael eu plannu, sy'n dod â brain i ardaloedd lle mae'r gylfinir yn nythu."
Dyna pam fod RSPB Cymru'n galw am wobrwyo ffermwyr am greu a chynnal cynefinoedd y gylfinir fel rhan o'r system daliadau fydd yn disodli'r Polisi Amaethyddol Cyffredin ar ôl i'r DU adael yr Undeb Ewropeaidd.
Mae Llywodraeth Cymru eisoes wedi ymgynghori ar eu cynigion nhw, ac yn bwriadu ymghyngori ymhellach yn ddiweddarach eleni.
"'Da ni defnitely angen agri-environment schemes i helpu'r ffermwyr helpu'r gylfinir," meddai Ms Pierce.
"Efallai y math o bethau 'da ni wedi bod yn gwneud - sicrhau bod llefydd lle mae'r gylfinir yn wlyb, gofalu am y llefydd lle maen nhw'n nythu.
"Ac mae gwartheg yn bwysig, so bysen i'n licio gweld ffermwyr, yn enwedig yn yr ucheldiroedd, yn cael rhyw fath o incentive i gadw gwartheg eto."
Ond mae llywydd Undeb Amaethwyr Cymru, Glyn Roberts, sy'n ffermio ger Ysbyty Ifan, yn galw am gydbwysedd rhwng yr economi a'r amgylchedd.
"Dwi yn teimlo mai nhw [cadwriaethwyr] sy'n gosod y rheolau a ni sy'n gorfod dilyn.
"Os nad ydan ni'n cael economi, 'da ni ddim yn cael diwylliant. Os nad ydan ni'n cael diwylliant, 'dan ni ddim yn cael iaith.
"Ac yng nghyd-destun hynny mae edrych ar ôl yr amgylchedd a natur, a nid fod natur yn arglwyddiaethu ar yr elfennau eraill."
Mae Llywodraeth Cymru'n dweud eu bod wedi helpu'r gylfinir drwy elfennau o'u Cynllun Rheoli Cynaliadwy gwerth £20m.
Dywedodd llefarydd fod eu polisi ar gyfer taliadau amaeth gafodd ei amlinellu mewn dogfen ymgynghori o'r enw Brexit a'n Tir yn ceisio "datblygu cymorth cynaliadwy ar gyfer ein ffermwyr a datblygu manteision ar gyfer ecosystemau mwy cydnerth i gynnal ein rhywogaethau a'n cynefinoedd".
Mae'r llywodraeth wedi derbyn dros 12,000 o ymatebion i'r ymgynghoriad ac mae'r Ysgrifennydd Materion Gwledig, Lesley Griffiths, wedi addo ymghori ymhellach cyn y Sioe Frenhinol yn ddiwedarach eleni.
Straeon perthnasol
- Cyhoeddwyd6 Rhagfyr 2018
- Cyhoeddwyd27 Tachwedd 2018
- Cyhoeddwyd27 Mehefin 2018