Arestio gyrrwr wedi gwrthdrawiad ar Bont Tywysog Cymru

  • Cyhoeddwyd
Difrod carFfynhonnell y llun, @gpasueast
Disgrifiad o’r llun,

Difrod i gar yn dilyn y digwyddiad fore Gwener

Cafodd dyn ei arestio ar amheuaeth o yfed a gyrru yn dilyn gwrthdrawiad ar Bont Tywysog Cymru fore Gwener.

Roedd tair lôn o'r M4 ar gau i'r ddau gyfeiriad am dair awr wedi'r digwyddiad am 06:00.

Fe ddywedodd Heddlu Gwent fod un cerbyd wedi mynd i'r lôn gyferbyn.

Er bod parafeddygon wedi'u galw, ni chafodd neb eu hanafu.

Mae'r dyn bellach wedi cael ei ryddhau.