Arestio dau ar ôl canfod ceffyl ar lawr ynghanol Caerdydd
- Cyhoeddwyd
Mae dau ddyn wedi'u harestio ar ôl i geffyl gael ei ganfod ar lawr yng nghanol Caerdydd nos Sadwrn.
Cafodd Heddlu De Cymru eu galw i Westgate Street toc wedi 19:00 ar ôl derbyn nifer o alwadau yn pryderu am gyflwr ceffyl.
Ynghyd ag aelodau'r cyhoedd, bu swyddogion yn edrych ar ôl y ceffyl cyn cysylltu â Whispering Willows Sanctuary, a gyrhaeddodd wedyn i ofalu amdano.
Roedd y ceffyl wedi dioddef o flinder llethol (exhaustion) a thrawiad gwres a allai fod wedi ei ladd, yn ôl Whispering Willows Sanctuary.
Erbyn bore Sul, roedd y ceffyl mewn cyflwr sefydlog ac yn yfed dŵr.
Cafodd dau ddyn, 21 a 25 oed, eu harestio yn y fan a'r lle ar amheuaeth o achosi dioddefaint diangen i anifail sydd wedi'i warchod.
Mae'r ddau yn cael eu cadw yn y ddalfa.