Achosion o glwy'r pennau mewn prifysgol Gymreig

  • Cyhoeddwyd
Rhywun yn derbyn brechiadFfynhonnell y llun, Science Photo Library
Disgrifiad o’r llun,

Mae Iechyd Cyhoeddus Cymru yn rhybuddio pobl i wneud yn siŵr bod eich brechiadau wedi eu diweddaru

Mae nifer o achosion o glwy'r pennau (mumps) wedi dod i'r amlwg ym Mhrifysgol Fetropolitan Caerdydd.

Mae Iechyd Cyhoeddus Cymru yn annog pobl i fod yn wyliadwrus ac i gymryd camau i geisio osgoi dal y firws, sy'n gallu arwain at salwch mwy difrifol.

Bu dros 200 o achosion o'r clwy mewn dwy brifysgol yn Nottingham ym mis Mawrth.

Nid yw Iechyd Cyhoeddus Cymru wedi cyhoeddi sawl achos sydd wedi codi yng Nghaerdydd, ond maent yn rhybuddio i gadw golwg am unrhyw symptomau ac i wneud yn siŵr bod brechiadau wedi'u diweddaru.

Cymhlethdodau difrifol

Mae firws clwy'r pennau neu'r dwymyn doben yn achosi poen wrth i'r chwarennau chwyddo yn yr wyneb, y gwddf a'r genau, ynghyd â thwymyn a phen tost.

Gallai cymhlethdodau gynnwys haint ar yr ymennydd (enceffalitis) a llid yr ymennydd.

Ffynhonnell y llun, Science Photo Library
Disgrifiad o’r llun,

Os ydych wedi cael y ddau ddos o'ch brechlyn MMR, mae'n llawer llai tebygol y byddwch yn dal clwy'r pennau

Mae'r firws hefyd yn gallu peri i geilliau dynion ac ofarïau menywod chwyddo'n boenus iawn. Bydd tua hanner y dynion fydd yn cael poen o'r fath yn sylwi bod eu ceilliau'n mynd rhywfaint y llai.

"Os bydd unrhyw un o'r symptomau hyn gennych, rydym yn awgrymu'n gryf eich bod yn gofyn cyngor oddi wrth eich meddyg gynted ag y gallwch," meddai llefarydd ar ran Iechyd Cyhoeddus Cymru.

"Os ydych wedi cael y ddau ddos o'ch brechlyn MMR, mae'n llawer llai tebygol y byddwch yn dal y dwymyn doben."