Angen £6,000 i gynrychioli Cymru mewn cystadleuaeth aredig

  • Cyhoeddwyd
Hugh Griffith
Disgrifiad o’r llun,

Bydd y gystadleuaeth yn cael ei chynnal yn Minnesota ym mis Awst

Mae ffermwr o Ben Llŷn yn ceisio codi £6,000 er mwyn gallu cynrychioli Cymru yng Nghystadleuaeth aredig y Byd yn yr Unol Daleithiau.

Mae Hugh Griffith yn gobeithio cymryd rhan yn y gystadleuaeth ond mae angen iddo godi £6,000 er mwyn cludo'r holl offer draw.

Bydd Cystadleuaeth Aredig y Byd yn cael ei chynnal yn Minnesota ym mis Awst eleni - 4,000 o filltiroedd i ffwrdd o Rydyclafdy ger Pwllheli.

Dywedodd Mr Griffiths ei fod o angen mynd â'i offer ei hun er mwyn rhoi'r cyfle gorau iddo lwyddo.

"Mae o fel rhedwr yn cael 'sgidiau newydd neu golffiwr yn newid clybiau. Rydych chi'n treulio oes gyda'r offer er mwyn perffeithio'r dechneg."

Disgrifiad o’r llun,

Mae Mr Griffith wedi bod i'r gystadleuaeth o'r blaen, ond dim ond i wylio

Mae Mr Griffith yn un o'r ddau gystadleuydd sy'n gobeithio cynrychioli Cymru yn y digwyddiad.

Dywedodd ei fod yn bwriadu ymarfer yn galed dros gyfnod yr haf, a'i fod yn gwybod yn union pwy fydd yn cynnig yr her fwyaf iddo.

"Mae'r gwŷr o Awstria yn gystadleuol iawn. Maen nhw'n treulio blwyddyn mewn coleg amaethyddol yn ymarfer ar gyfer y gystadleuaeth," meddai.

"Ond y Gwyddelod yw'r rhai sydd angen eu curo bob tro. Maen nhw wastad i weld yn gwneud yn dda."