Galw ar ACau i dyngu llw i bobl Cymru, nid y Frenhines

  • Cyhoeddwyd
Y Frenhines yn y Cynulliad
Disgrifiad o’r llun,

Mae ACau yn tyngu llw i'r Frenhines pan yn cymryd eu seddi yn y Siambr

Dylai ACau gael yr opsiwn o dyngu llw i bobl Cymru, yn hytrach na'r Frenhines, pan mae'n nhw'n cael eu cadarnhau i'r rôl, yn ôl AC Plaid Cymru.

Ar hyn o bryd mae Aelodau Cynulliad yn tyngu llw i'r Frenhiniaeth ar ôl iddyn nhw gael eu hethol i'w sedd.

Dywedodd Bethan Sayed mai ei blaenoriaeth hi yw ei hetholwyr, ac y byddai tyngu llw iddyn nhw yn eu gwneud i "deimlo bod parch tuag atynt".

Mae gwleidyddion eraill wedi rhybuddio y gallai newid o'r fath wanhau'r pŵer sy'n cael ei roi i ACau gan Bennaeth y Wladwriaeth, y Frenhines.

Yr un yw'r rheolau ar gyfer ASau yn San Steffan, ond mae aelodau Senedd Gogledd Iwerddon yn gallu cymryd y swydd heb dyngu llw i'r Frenhines.

'Rhyddid barn'

Dywedodd Ms Sayed, AC Gorllewin De Cymru, wrth raglen Sunday Politics Wales ei bod yn credu y dylai gwleidyddion yn y Cynulliad gael yr opsiwn hynny hefyd.

"Mewn gwlad ddemocrataidd, pobl Cymru yw'r ffactor bwysicaf ym mhob un o'n penderfyniadau gwleidyddol," meddai.

"Ry'n ni'n cael ein hethol ganddyn nhw, yn eu gwasanaethu, yn atebol iddyn nhw, yn eu cyfarfod a chael trafodaethau gyda nhw, a nhw yw'r peth pwysicaf am ein gwaith fel Aelodau Cynulliad.

"Felly rwy'n meddwl ei bod yn allweddol bod gennym yr opsiwn fel y gall pobl Cymru deimlo bod parch tuag atynt gennym ni fel ACau.

"Rydw i'n weriniaethwr pendant, ac rydw i wedi siarad am y materion yma yn y gorffennol, ond rwy'n credu bod hyn i wneud mwy gyda rhyddid barn."

Disgrifiad o’r llun,

Bydd Bethan Sayed yn arwain trafodaeth ar y mater yn y Cynulliad ddydd Mercher

Ond dywedodd AC Ceidwadol Mynwy, Nick Ramsay nad yw eisiau gweld unrhyw newidiadau fyddai'n gwanhau'r pŵer sy'n cael ei roi i ACau gan y Frenhines.

"Ar ddiwedd y dydd, y Frenhines, fel Pennaeth y Wladwriaeth, sy'n rhoi pŵer i'r Cynulliad," meddai.

"Hi sy'n cymeradwyo ein cyfreithiau felly rwy'n meddwl bod tyngu llw iddi yn bwysig iawn."

Bydd Ms Sayed yn arwain trafodaeth ar y mater yn y Cynulliad ddydd Mercher, ond ni fydd ACau yn pleidleisio ar unrhyw gynnig.

Sunday Politics, BBC One Wales, 14:45 dydd Sul 28 Ebrill.