Gwagio canolfan Pontio ym Mangor yn dilyn tân
- Cyhoeddwyd

Roedd mwg i'w weld yn dod o'r adeilad ddydd Llun
Mae canolfan gelfyddydau Pontio yng nghanol Bangor wedi cael ei wagio yn dilyn tân.
Cafodd pobl eu hannog i adael yr adeilad wrth i griwiau a dwy injan dân ddelio â'r fflamau ar ôl cael eu galw yno am 11:50 ddydd Llun.
Mae'n debyg bod y tân wedi cynnau tra bod gwaith yn cael ei wneud ar do'r adeilad.
Roedd mwg i'w weld yn dod o'r adeilad, ond mae diffoddwyr yn dweud bod y tân bellach dan reolaeth.
Caniatáu cynnwys Twitter?
Mae’r erthygl hon yn cynnwys deunydd gan Twitter. Gofynnwn am eich caniatâd cyn llwytho unrhyw beth, gan y gallai Twitter ddefnyddio cwcis neu dechnoleg arall. Mae’n bosib eich bod am ddarllen polisi cwcis Twitter, dolen allanol a pholisi preifatrwydd, dolen allanol cyn derbyn. Er mwyn gweld y cynnwys dewiswch ‘derbyn a pharhau’.
Dywedodd llefarydd ar ran Prifysgol Bangor, sy'n rhedeg Pontio, bod y tân wedi dechrau wedi i dar poeth roi'r deunydd inswleiddio ar dân.
Dywedodd Alan Parry o Brifysgol Bangor bod difrod y tân wedi ei gyfyngu i'r llawr uchaf
Ychwanegodd nad yw'n amlwg faint o ddifrod sydd wedi'i achosi, ond ei fod wedi'i gyfyngu i ardal fechan o'r to.
Fe wnaeth Pontio gadarnhau ar Twitter y bydd yr adeilad "ar gau am weddill y diwrnod oherwydd oglau mwg", ac y bydd penderfyniad erbyn 08:30 os yw'r ganolfan am agor ddydd Mawrth.

Mae'r adeilad yn debygol o aros ar gau nes bod asesiad risg a difrod wedi'i gwblhau