Cwpan Undydd: Morgannwg yn curo Sir Gaerloyw

  • Cyhoeddwyd
Chris CookeFfynhonnell y llun, Huw Evans picture agency

Mae capten Morgannwg, Chris Cooke wedi sicrhau ei sgôr uchaf erioed - 161 o rediadau - wrth i'w dîm guro Sir Gaerloyw o 74 o rediadau yn y Cwpan Undydd.

Fe ychwanegodd Billy Root 98 o rediadau i roi sgôr o 331 am saith wiced.

Llwyddodd y bowliwr cyflym Marchant de Lange i gipio tair wiced gynnar wedyn i amharu ar ymdrechion y tîm cartref i daro'n ôl.

Jack Taylor oedd prif sgoriwr Sir Gaerloyw gyda 75 o rediadau, ac fe lwyddodd y tîm cartref i gyrraedd 257.

Dywedodd Cooke wedi'r gêm eu bod wedi cael diwrnod da a'i fod yn falch o'r ffordd y mae'r tîm yn mynd, ond bod angen dysgu gwersi o'u dechrau siomedig yn y gystadleuaeth a'r golled agos yn erbyn Gwlad yr Haf.