'Newid bwrdd Betsi os mae'n aros dan fesurau arbennig'

  • Cyhoeddwyd
Betsi Cadwaladr

Dylid diswyddo aelodau bwrdd iechyd mwyaf Cymru oni bai bod y cadeirydd newydd yn llwyddo i'w dynnu o fesurau arbennig, yn ôl corff sy'n cynrychioli cleifion.

Mae Bwrdd Iechyd Prifysgol Betsi Cadwaladr mewn mesurau arbennig ers Mehefin 2015, ac yn ei gyfweliad cyntaf ar ôl cael ei benodi'n gadeirydd ym mis Medi dywedodd Mark Polin bod y bwrdd yn "tanberfformio ac yn gorwario".

Yn ôl Cyngor Iechyd Cymuned Gogledd Cymru (CICGC), mae'r bwrdd "yn ddiamau wedi bod yn araf" i sicrhau gwelliannau.

Doedd y bwrdd iechyd ddim am ymateb i'r feirniadaeth.

Dywedodd prif weithredwr CICGC, Geoff Harvey-Ryall wrth Newyddion 9 bod angen i weinidogion Llywodraeth Cymru wneud mwy i helpu'r bwrdd.

"Dydw i ddim yn credu bod hi'n ddigon i ddatgan eu bod yn methu a ddim yn cyrraedd targedau," meddai. "Mae angen iddyn nhw gael help gwirioneddol gyda hynny."

Disgrifiad o’r llun,

Cafodd Mark Polin ei benodi'n gadeirydd Bwrdd Iechyd Betsi Cadwaladr ar ôl ymddeol fel Prif Gwnstabl Heddlu'r Gogledd

Pan ofynnwyd os ydy'r bwrdd ei hun wedi gwneud digon i sicrhau gwelliannau ers Mehefin 2015, dywedodd Mr Harvey-Ryall bod y ffaith bod y sefydliad dan fesurau arbennig cyhyd "yn dweud y cyfan".

"Mae bron yn bedair blynedd," meddai. "Does dim sôn am beth felly yn Lloegr lle mae 18 mis yn gyfnod hir iawn."

Mewn ymateb i gwestiwn a ddylid newid aelodau'r bwrdd os nad yw'r cadeirydd newydd yn llwyddo i ysgogi gwelliannau, atebodd Mr Harvey-Ryall: "Dyna'r cam rhesymegol nesaf."

"Mae wedi digwydd yn llefydd eraill yn y DU. Does dim rheswm pam na fyddai'n digwydd yma ond rwy'n gobeithio, er lles cleifion, na wnawn ni gyrraedd y pwynt yna."

'Datblygiadau'

Dywedodd llefarydd ar ran Llywodraeth Cymru eu bod wedi cynnig "cymorth a chyngor rheoli i'r Bwrdd Iechyd, ynghyd â dros £80 miliwn o gyllid ychwanegol".

"Mae datblygiadau wedi cael eu gwneud mewn meysydd allweddol; er enghraifft, dyw'r gwasanaethau tu allan i oriau arferol a mamolaeth ddim dan fesurau arbennig erbyn hyn", meddai.

Eglurodd y llefarydd nad yw'n "briodol i gymharu mesurau arbennig yn Lloegr a Chymru oherwydd y ffordd mae'r gwasanaeth yn cael ei ddarparu".

"Serch hynny, mae rhai ymddiriedolaethau yn Lloegr yn parhau i fod dan fesurau arbennig, gan gynnwys un oedd dan hynny am dros 4 mlynedd."