Cwmni technegol yn honni i AS achosi niwed i'w enw da
- Cyhoeddwyd
Mae Aelod Seneddol Cymreig wedi cael ei gyhuddo o achosi "niwed sylweddol a pharhaus" i enw da cyfarwyddwyr cwmni technegol.
Fe awgrymodd David TC Davies yn ystod Pwyllgor Materion Cymreig i benaethiaid Blurrt dderbyn £180,000 o arian cyhoeddus.
Ond roedd AS Mynwy a chadeirydd y pwyllgor yn anghywir ac mae cadeirydd Blurrt, Nick Miller wedi mynnu "ymddiheuriad cyhoeddus yn syth".
Dywed Mr Davies ei fod wedi gwahodd Mr Miller i fynd o flaen y pwyllgor i drafod buddsoddiad S4C yn y cwmni.
Fe wnaeth cangen fasnachol S4C gymryd 22% o siâr yn y cwmni yn 2014, gan fuddsoddi £226,742 ynddo dros dair blynedd.
Mae S4C wedi ailstrwythuro'r adain fasnachol bellach, gan gynnwys penodi'r prif weithredwr Owen Evans i gadeirio bwrdd y corff.
Fe gaeodd Blurrt, sydd wedi cael £770,000 o arian cyhoeddus, ei unig swyddfa yng Nghymru fis Gorffennaf diwethaf.
Benthyciadau
Ym mis Rhagfyr fe ymddangosodd penaethiaid S4C gerbron y Pwyllgor Materion Cymreig.
Wrth eu holi, fe ofynodd Mr Davies os oedd cyfarwyddwyr Blurrt wedi cymryd bron i £180,000 mewn taliadau o arian cyhoeddus.
Dywedodd Mr Davies bod y cyfrifon diweddaraf yn awgrymu bod "£179,000 o arian yn cael ei dalu i'r cyfarwyddwyr," gan ychwanegu bod yr arian yn ymddangos fel benthyciadau i'r cyfarwyddwyr.
Fe ofynodd yn y cyfarfod "a oedd yr arian yr oedden nhw'n cael eu talu yn syml yn arian cyhoeddus, gan gynnwys cyllid gan S4C?".
Mewn llythyr i Mr Davies ym mis Ionawr, dywedodd Mr Miller yn "bendant....nid dyma ddigwyddodd", gan ychwanegu ei bod yn ymddangos nad oedd yn gallu "deall cyfrifion sylfaenol cwmni".
Mae Mr Miller yn dweud bod AS Mynwy yn cyfeirio at "fenthyciadau y cyfarwyddwyr ar y cyfrifion...rhai y mae o'n meddwl sy'n fenthyciadau i'r cyfarwyddwyr".
Ychwanegodd: "Mewn gwirionedd, maen nhw i'r gwthwyneb, a cafodd y £180,000 ei roi i'r cwmni gan fy hun ac un cyfarwyddwr arall fel modd o amddiffyn diddordebau'r cyfranddaliwr, gan gynnwys y buddsoddiad gafodd ei wneud gan SDML (S4C Digital Media Limited).
"Cafodd y taliad yma ei wneud mewn ffurf o fenthyciad nad oedd modd ei ddiogelu i sicrhau nad oedd Blurrt yn mynd i ddwylo'r gweinyddwyr ar ôl i fuddsoddwyr sefydliadol (gan gynnwys SDML) gymryd y penderfyniad i fuddsoddi ymhellach.
"Nid yw'r un o'r cyfarwyddwyr wedi cael unrhyw fath o dâl o'r busnes."
Mae'r llythyr yn mynd ymlaen i ddweud bod 'na botensial i'r honiad yma mewn pwyllgor "achosi niwed sylweddol a pharhaol" i enw da'r cyfarwyddwyr.
Dywedodd Mr Davies: "Doedd Nick Miller ddim yn hapus gyda'r ffordd y cafodd S4C ei holi ychydig fisoedd yn ôl.
"Mae o wedi gofyn am ymddiheuriad ac rwyf wedi ei wahodd i ymddangos o flaen y pwyllgor i drafod beth ddigwyddodd i fuddsoddiad S4C yn Blurrt."
Straeon perthnasol
- Cyhoeddwyd18 Rhagfyr 2018