Aberystwyth: Llinellau parcio stryd gyda bylchau yn 'ffars'

  • Cyhoeddwyd
Llinellau parcio
Disgrifiad o’r llun,

Dyma oedd yn wynebu gyrwyr wrth iddyn nhw fynd at eu ceir ddydd Mawrth

Mae contractwyr wedi peintio llinellau melyn dwbl yn nhref Aberystwyth - ond gyda bylchau lle'r oedd cerbydau wedi'u parcio.

Cafodd y marciau ffordd anarferol eu peintio yn Tan y Cae yn Aberystwyth ddydd Mawrth, er mawr syndod i drigolion.

Dywedodd perchennog gwesty cyfagos nad oedd rhybudd ymlaen llaw y byddai marcio ffyrdd yn digwydd a bod yr ymgais yn "ffars llwyr".

Mae Cyngor Ceredigion wedi cael cais am sylw.

Mae John Evans yn berchen ar dŷ gwestai Yr Hafod ar gornel Glan-y-Môr a Tan y Cae.

Dywedodd nad oedd y cyngor wedi rhoi rhybudd ymlaen llaw i'r preswylwyr y byddai'r llinellau'n cael eu peintio ac nad oedd unrhyw bolardiau wedi'u gadael allan.

"Y peth cyntaf a wyddom oedd llinellau yn ymddangos ar y ffordd," meddai.

"Nawr rydym yn gwybod mai dyna lle'r oedd y cyngor eisiau i'r llinellau fynd, ond ni ddywedodd neb ddim byd wrthym y byddai'n digwydd."