Morgannwg yn colli i Middlesex yn y Cwpan Undydd

  • Cyhoeddwyd
charlie hemphreyFfynhonnell y llun, Getty Images
Disgrifiad o’r llun,

Cafodd Morgannwg eu trechu er gwaethaf ymdrechion Charlie Hemphrey

Colli oedd tynged Morgannwg yn erbyn Middlesex yn y Cwpan Undydd brynhawn Sul.

Morgannwg oedd y cyntaf i fatio, gan sgorio 285 o rediadau - 87 o'r rheiny i Charlie Hemphrey sydd newydd ymuno a'r tîm ddechrau'r tymor.

Ond doedd hynny ddim yn ddigon, wrth i Middlesex orffen â 289-5, gyda 15 pêl yn sbâr.

Mae'r canlyniad yn golygu fod Morgannwg yn aros yn y chweched safle yng Ngrŵp Deheuol y Gwpan Undydd, gyda phum pwynt.

Sussex fydd eu gwrthwynebwyr nesaf.