Arbrawf i adfer hen gnydau trwy blannu hadau prin
- Cyhoeddwyd
Mae gwyddonwyr o Brifysgol Aberystwyth yn plannu hadau cyrch sydd mor eithriadol o brin nes taw ond ychydig gannoedd sydd bellach ar ôl.
Mae'r arbrawf yn cael ei gynnal ar dir yn Sir Benfro gyda'r nod o geisio adfer cnydau oedd ar un cyfnod yn tyfu ar draws Cymru ond sydd heb eu plannu yma, mewn rhai achosion, ers hanner canrif.
Yn ôl y gwyddonwyr fe allai'r cynllun gyfrannu at fwydo cenedlaethau'r dyfodol a'u bwriad, os ydy'r arbrawf yn llwyddo, ydy rhannu hadau gyda ffermwyr yng ngweddill Cymru.
Trwy astudio i ba raddau y mae'r hadau gwahanol yn ffynnu, mae'r ymchwilwyr yn gobeithio adfer 10 o hen gnydau prin gan gynnwys y 'Radnorshire Sprig' a'r 'Hen Gardie'.
Hadau prin
Mae hadau Ceirchen Lwyd mor brin, dim ond 20 sydd wedi eu rhoi ar gyfer yr arbrawf.
"Yn nhermau amrywiaeth o blith ein cnydau ledled y byd, rydyn ni wedi colli 75% yn y 100 mlynedd diwethaf," meddai Katie Hastings, cydlynydd Rhaglen Sofraniaeth Hadau'r DU yng Nghymru.
"Nifer fach iawn o fathau sydd ar ôl erbyn hyn ac mae'n hynny'n sefyllfa beryglus.
"Fe allan nhw fod yn fregus o ran rhai clefydau ac amodau penodol, ac fel allan ni golli llawer o'n cnydau yn niffyg amrywiaeth geneteg.
"Roedd cnydau sy'n unigryw i ranbarthau penodol yn arfer cael eu tyfu ar bob fferm a'u rhannu ymhlith ei gilydd.
"Erbyn hyn, ry'n ni'n archebu hadau gan gwmnïau, ac er eu bod yn gwerthu amrywiaeth dda, dydyn nhw ddim yn gwerthu'r amrywiaeth genetig oedd yn arfer bod ar gael."
Mae'r ffermwr Gerald Miles yn caniatáu i'r gwyddonwyr ddefnyddio darn o'i dir yn Nhyddewi ar ôl treulio 20 mlynedd yn ceisio dod o hyd i fath arbennig o gyrch roedd yn ei gofio o'i blentyndod.
Mae'n credu bod y cynllun hwn yn "agor posibiliadau newydd i ffermwyr ar draws Cymru".
"Dyma fwyd y dyfodol," meddai Mr Miles, oedd ar un cyfnod yn weithgar iawn yn y mudiad a oedd yn gwrthwynebu plannu cnydau oedd wedi cael eu haddasu'n enynnol.
'Addasu i newid hinsawdd'
Dywedodd mai rheswm arall dros adfer hen gnydau Cymreig yw'r angen i sicrhau bod Cymru'n gallu ymdopi'n well â newidiadau yn yr hinsawdd a'r sefyllfa economaidd.
"Mae mathau cyfoes o rawn yn cael eu cynhyrchu ar gyfer amaethyddiaeth raddfa fawr, i dyfu dan amodau ffafriol a'u cynhaeafu gyda dyrnwyr medi mawr", meddai.
"Os ydych chi'n ffermio ar raddfa lai dan amodau llai ffafriol heb offer mawr, byddai mathau eraill o rawn yn fwy addas i'ch fferm chi.
"Os ydyn ni am addasu i newid hinsawdd, yna mae'n rhaid i ni edrych ar gnydau sy'n addas ar gyfer gwahanol fathau o hinsawdd."
Mae samplau o'r hadau wedi cael eu storio a'u profi ym Mhrifysgol Aberystwyth, lle mae gwyddonwyr yn awyddus i weld sut fyddan nhw'n tyfu mewn caeau ar draws Cymru.
Yn ôl y pennaeth magu ceirch, Dr Catherine Howarth, fe ddiflannodd rhai hen gnydau wrth gyflwyno rhai newydd oedd yn fyrrach, ac felly'n llai tebygol o dorri mewn gwynt a glaw.
Mae'r cynllun yn gyfle i ddysgu gwersi a gollwyd dros y blynyddoedd wrth ganolbwyntio ar dyfu cnydau newydd, gan gynnwys "pethau diddorol fel gwydnwch yn wyneb clefydau".