Cwpl brenhinol yn ymweld â'r gogledd
- Cyhoeddwyd

Fe wnaeth y cwpl ymweld â safle gwylwyr y glannau yng Nghaernarfon
Mae Dug a Duges Caergrawnt wedi gwneud ymweliad undydd â gogledd Cymru.
Fe ddechreuodd eu taith gydag ymweliad i faes hofrennydd Gwylwyr y Glannau yng Nghaernarfon.
Bu'r cwpl yn byw ar Ynys Môn rhwng 2010 a 2013, gyda'r Tywysog William yn gweithio fel peilot hofrennydd gyda'r Awyrlu Brenhinol yn Y Fali.
Yn ystod yr ymweliad ddydd Mercher cafodd y ddau gyfle i weld hofrenyddion Sikorsky newydd Gwylwyr y Glannau.
Fe wnaeth y cwpl hefyd gwrdd â staff Ambiwlans Awyr Cymru, sydd â safle drws nesaf i Wylwyr y Glannau yng Nghaernarfon.

Bu'r cwpl brenhinol yn gweld yr hofrenyddion Sikorsky newydd.