Y cyn-wleidydd Rod Richards wedi marw yn 72 oed
- Cyhoeddwyd
Mae'r cyn-wleidydd Rod Richards wedi marw yn 72 oed.
Dywedodd ei deulu ei fod wedi marw yn hosbis Marie Curie ym Mhenarth "yn dilyn brwydr hir â chanser".
Yn enedigol o Lanelli, cafodd yrfa liwgar a ddechreuodd gyda'r Morlu Brenhinol.
Daeth yn adnabyddus fel darlledwr newyddion Cymraeg gyda'r BBC cyn symud i'r byd gwleidyddol.
Cafodd ei ethol yn Aelod Seneddol Ceidwadol dros ogledd-orllewin Clwyd yn 1992 cyn cael ei wneud yn weinidog yn Swyddfa Cymru.
Ond bu'n rhaid iddo ymddiswyddo yn 1996 yn dilyn honiadau am ei fywyd personol yn y wasg.
Wedi hynny fe arweiniodd ymgyrch y Ceidwadwyr yn etholiadau cyntaf y Cynulliad.
Fe gafodd ef ac wyth arall o'r blaid eu hethol a bu'n arwain y blaid yn y Cynulliad am gyfnod cyn iddo orfod ymddiswyddo lai na thri mis fewn i'r tymor cyntaf oherwydd honiad ei fod wedi ymosod ar fenyw.
Cafodd ei ganfod yn ddieuog o'r cyhuddiad gan reithgor yn 2000.
Fe gafodd ei daflu allan o'r grŵp Ceidwadol yn y Cynulliad am wrthod dilyn cyfarwyddiadau'r arweinydd newydd, Nick Bourne ar sut i bleidleisio mewn pleidlais bwysig ar y gyllideb.
Yn 2003 cafodd ei ddyfarnu'n fethdalwr - rhywbeth, meddai, oedd wedi'i gysylltu â'i ddibyniaeth ar alcohol.
Fe gyhoeddodd ei fod wedi ymuno â UKIP yn 2013, ac yn fwy diweddar roedd wedi bod yn sylwebydd gwleidyddol.
Dywedodd y sylwebydd gwleidyddol a chyn-newyddiadurwr ITV Cymru, Gareth Hughes bod Rod Richards yn "wleidydd angerddol".
"Os oeddech chi'n croesi Rod Richards, roeddech chi'n gwybod am y peth," meddai.
Roedd ar y dde o'r "hen Blaid Geidwadol", meddai Mr Hughes, "a byddai wedi bod yn gyfforddus iawn yn y Blaid Geidwadol bresennol".
"Roedd yn berson oedd o blaid y sefydliad - doedd yn bendant ddim eisiau datganoli, roedd hynny'n glir.
"Roedd yn ystyried San Steffan i fod yn bwysig iawn, ac yn yr ystyr hynny roedd yn deyrngarol i'r undeb."
'Di-flewyn-ar-dafod '
Dywedodd AS Ceidwadol Sir Fynwy, David Davies ei fod wedi dod yn ffrindiau agos gyda Rod Richards yn yr 1990au.
"Doedd ei synnwyr digrifwch ddim yn methu, a llwyddodd i wneud i mi chwerthin pan wnes i ymweld ag ef oriau'n unig cyn iddo farw," meddai.
"Doedd y ffaith ei fod mor ddi-flewyn-ar-dafod ddim wastad yn ennill ffrindiau iddo ond roedd yn newid braf o'r safbwynt 'dywedwch yr hyn mae pobl eisiau ei glywed'."
Mae'n gadael tri o blant ac wyth o wyrion ac wyresau.