Y Ffarmers yn Llanfihangel-y-Creuddyn yn ailagor wedi tân

  • Cyhoeddwyd
Y FfarmersFfynhonnell y llun, Y Ffarmers
Disgrifiad o’r llun,

Mae'r perchnogion wedi ceisio adfer yr adeilad i fel ag yr oedd cyn y tân

Mae tafarn yng Ngheredigion, a oedd wedi ymddangos yng nghanllawiau bwytai Michelin a'r AA, wedi ailagor 15 mis wedi i dân mawr ei dinistrio.

Cafodd adeilad Y Ffarmers yn Llanfihangel-y-Creuddyn ei ddifrodi ar ôl i dân gynnau yn oriau mân un bore Sadwrn yn Ionawr 2018.

Roedd rhan helaeth y to wedi syrthio i mewn i gragen yr adeilad, a chafodd llawr uchaf y dafarn ei ddinistrio yn llwyr.

Yn ôl y perchnogion mae'n deimlad "anhygoel" bod y lle wedi ailagor, a bod yr ymateb gan bobl leol wedi bod yn "wych".

"Ni mor browd o'r gwaith sydd wedi digwydd er mwyn ailagor y lle yma," meddai Caitlin Morse - cyd-berchennog y dafarn gyda Lewis Johnston.

"Mae llawer o weithwyr lleol wedi bod yma'n ein helpu, ac mae pob un ohonyn nhw wedi bod mor ofalus, ac yn dangos balchder yn eu gwaith.

"Mae gyda ni ffrindiau am oes ar ddiwedd hyn i gyd."

Ffynhonnell y llun, Ifan Jones Evans
Disgrifiad o’r llun,

Roedd rhan helaeth o'r to wedi syrthio i mewn i gragen yr adeilad adeg y tân

Cafodd parti ei gynnal yn y dafarn ar gyfer pobl leol ddiwedd Ebrill, er mwyn dangos eu gwerthfawrogiad am eu cymorth dros y 15 mis diwethaf.

"Fe geision ni achub popeth a oedd yn bosib o'r hen dafarn er mwyn ei gynnwys yn yr adeilad newydd," meddai Ms Morse, sydd hefyd yn berchen ar dafarn arall yng Ngogerddan.

"Mae'r teils coch a du yn yr hen far yn wreiddiol, ac rydyn ni wedi llwyddo i ddefnyddio darn o'r hen do fel trawst uwchben y lle tân newydd.

"Wrth i ni dynnu un o'r welydd mewnol i lawr fe ddaethon ni hefyd ar draws hen drawst derw a oedd wedi cael ei guddio, felly rydyn ni wedi adfer hwnnw ac mae bellach ar ddangos yn y bwyty."

Ffynhonnell y llun, Y Ffarmers
Disgrifiad o’r llun,

Y teils coch a du yn y bar oedd un o'r nodweddion gwreiddiol prin wnaeth oroesi'r tân

Ffynhonnell y llun, Y Ffarmers
Disgrifiad o’r llun,

Un rhan newydd ydy'r ardd sydd bellach wedi ei droi'n lloches i ymwelwyr a'u cwn

Ychwanegodd Ms Morse: "Roeddwn i wir yn pendroni sut oedden ni am wneud hyn i gyd, ond dwi mor falch bo' fi wedi rheoli'r prosiect achos os yw rhwbeth yn teimlo'n iawn ro'n ni'n gallu bwrw ymlaen gydag e, a mynd amdani.

"Mae'n teimlo'n anhygoel bo' ni wedi cyrraedd y man yma, a'n bod ni wedi llwyddo i gadw'n holl staff ni hefyd.

"Roedden ni'n poeni ychydig a fyddai pobl yn ei hoffi, ond mae'r ymateb wedi bod yn wych."