Tân yn difrodi tafarn enwog yn Llanfihangel-y-Creuddyn
- Cyhoeddwyd

Gydol ddydd Sadwrn mae'r gwasanaeth tân wedi bod yn diffodd tân mewn tafarn enwog yn Llanfihangel-y-Creuddyn ger Aberystwyth.
Cafodd y gwasanaethau tân eu galw i dafarn Y Ffarmers am 07.26 ac mae'n debyg bod yr adeilad wedi cael ei ddifrodi'n sylweddol.

Does neb wedi cael ei anafu a ni chredir fod neb yn y dafarn ar y pryd.
Cafodd criwiau o Aberystwyth, Tregaron a Machynlleth eu galw ac fe fuont yn diffodd y tân gydol y bore.

Dywedodd Julie Williams sy'n warden yn yr eglwys leol ei fod yn sioc ac yn siom i'r gymuned.
"Mae'r dafarn wastad yn ganolbwynt pethau ac ry'n wedi cael sioc a siom anferth o glywed y newyddion a gweld y lluniau.
"Cymuned fach i ni yma yn Llanfihangel-y-Creuddyn ond ry'n yn gymuned glos ac mae rhywbeth fel hyn yn effeithio arnon ni i gyd.
"Os oes digwyddiad yn y pentre mae'r dafarn wastad yn gysylltiedig ag e - ac fe fyddwn yn colli'r lle yn fawr."
Yn y gorffennol mae tafarn Y Ffarmers wedi ennill sawl gwobr ac wedi ymddangos mewn llawlyfrau blaenllaw.