Dyn wedi 'amharu ar breifatrwydd cannoedd o fenywod'

  • Cyhoeddwyd
Mold Crown CourtFfynhonnell y llun, Getty Images
Disgrifiad o’r llun,

Cafodd Bacchus ei ddedfrydu yn Llys y Goron yr Wyddgrug

Mae dyn o'r Rhyl wnaeth ddefnyddio "offer soffistigedig" er mwyn tynnu lluniau i fyny sgertiau menywod wedi cael dedfryd o garchar wedi'i ohirio am 12 mis.

Fe wnaeth Kevin Bacchus, 64 oed - sydd erbyn hyn wedi symud i ardal Newcastle - bledio'n euog i bum cyhuddiad o dramgwyddo mewn ardal heb ei henwi yn 2015 ac ym Mae Colwyn yn Ebrill 2018.

Hefyd fe blediodd yn euog i gymryd 111 o luniau anweddus o blant rhwng Awst 2011 ac Ebrill 2018 gyda dau o'r delweddau yn y categorïau mwyaf difrifol.

Clywodd Llys y Goron yr Wyddgrug fod yr achosion o ffilmio i fyny sgertiau yn ymwneud â merched mor ifanc â 15 oed.

Ar ôl i Bacchus gael ei arestio fe newidiodd y ddeddf gan wneud tynnu lluniau i fyny sgertiau yn drosedd benodol, ond cafodd ei gyhuddo o dan yr hen ddeddf.

Tag electroneg

Ymhlith yr offer gafodd eu defnyddio oedd lens wedi ei glymu i dafod ei esgid, gyda'r pecyn barti ar ei ffêr.

Cafodd ei ddal wrth ffilmio mewn gŵyl ym Mae Colwyn.

Dywedodd y Barnwr Niclas Parry wrtho: "Dros gyfnod o dair blynedd rydych wedi, dro ar ôl tro, amharu ar breifatrwydd cannoedd o fenywod."

Fe fydd Bacchus hefyd yn gorfod gwisgo tag electroneg a bod dan oriau cyrffyw o 19:00 tan 07:00 am dri mis.

Mae hefyd wedi ei wahardd rhag defnyddio offer electroneg yn debyg i'r rhai gafodd eu defnyddio wrth droseddu.