Yr Ail Adran: Morgannwg v Swydd Gaerloyw, diwrnod 1
- Cyhoeddwyd
Mae Swydd Gaerloyw wedi gosod her gadarn i Forgannwg wrth iddyn nhw gyrraedd 362-6 ar ddiwrnod cyntaf eu gêm yn ail adran Pencampwriaeth y Siroedd.
Cafwyd batiad aeddfed gan James Bracey wrth iddo gyrraedd 152 o rediadau, ac mewn partneriaeth â Gareth Roderick cafodd y ddau gyfanswm o 199 o rediadau.
Fe geisiodd Marchant de Lange (3-76) ffrwyno mantais yr ymwelwyr ychydig, gan gymryd dwy wiced gydag ail bêl newydd y gêm.
Ac er i Bracey nodi dros 100 o rediadau, fe fethodd a churo ei sgôr orau, a hynny o bedwar rhediad.
Ond dyma oedd y trydydd tymor yn olynol iddo groesi'r 100 yn erbyn Morgannwg.
Dyma oedd y tro cyntaf ers dros 54 mlynedd i Forgannwg chwarae gêm Pencampwriaeth Sirol ym Mharc Spytty yng Nghasnewydd.