Bachgen, 12, yn disgyn dros glogwyn yn Rhosili

  • Cyhoeddwyd
Hofrennydd ar y traethFfynhonnell y llun, Gwylwyr y Glannau Rhosili
Disgrifiad o’r llun,

Roedd y bachgen wedi bod yn chwarae pan syrthiodd

Cafodd bachgen 12 oed ei gludo i'r ysbyty mewn hofrennydd ar ôl disgyn 45 troedfedd oddi ar glogwyn.

Dywedodd Gwylwyr y Glannau fod y bachgen wedi bod yn chwarae ar y clogwyni yn Rhosili ar benrhyn Gŵyr pan syrthiodd tua 14:00 ddydd Mawrth.

Cafodd anaf i'w ben a llawer o gleisiau, ac fe gafodd ei gymryd i Ysbyty Athrofaol Cymru yng Nghaerdydd am driniaeth bellach.

Yn ôl llefarydd ar ran Gwylwyr y Glannau Rhosili, roedd y bachgen yn "lwcus iawn" i beidio dioddef anafiadau gwaeth.