Gweithwyr o Gymru'n talu trethi'r Alban ar gam

  • Cyhoeddwyd
arianFfynhonnell y llun, PA

Mae nifer o weithwyr yng Nghymru wedi talu'r swm anghywir o dreth incwm ar ôl i gyfraddau'r Alban gael eu defnyddio ar gam.

Nid yw'n glir faint o bobl sydd wedi eu heffeithio ond mae'r camgymeriad ynglŷn â chodau treth, sy'n ymwneud â lle mae pobl yn byw.

Ym mis Ebrill, cafodd Cyfraddau Treth Incwm Cymru eu cyflwyno a'r cod treth sydd angen ei ddefnyddio yw C.

Dywedodd adran Cyllid a Thollau Ei Mawrhydi (HMRC) fod y gwall wedi digwydd am fod cod S am Yr Alban wedi ei roi i mewn, gan olygu bod rhai wedi talu gormod o dreth a rhai eraill ddim digon.

  • Bydd angen i bobl sy'n ennill £12,501 i £14,549 dalu mwy o dreth gan fod cyfradd yr Alban yn 19% tra yng Nghymru mae'n 20%;

  • Byddai unrhyw un sy'n ennill £24,945 i £43,430 wedi talu 1% yn fwy nag y dylen nhw fod wedi'i wneud;

  • Byddai'r rhai ar £43,431 i £50,000 wedi wynebu cynnydd o 21%, tra byddai unrhyw un dros £50,001 wedi gordalu 1%.

"Rydym wedi cael gwybod am gamgymeriad wrth i rai cyflogwyr ddefnyddio codau treth incwm newydd i drethdalwyr yng Nghymru, sydd wedi golygu bod rhai trethdalwyr wedi talu'r swm anghywir o dreth ym mis Ebrill," meddai HMRC.

"Cyfrifoldeb y cyflogwr yw rhoi'r codau treth a ddarperir gan HMRC ac rydym yn gweithio'n agos gyda'r cyflogwyr sydd wedi'u heffeithio ac yn darparu cymorth wrth iddyn nhw ymchwilio a chywiro'r broblem."

'Siomedig iawn'

Ond dywedodd Cadeirydd Pwyllgor Cyllid y Cynulliad, Llŷr Gruffydd, fod HMRC yn ymwybodol y gallai fod problemau.

"Mae cyfaddefiad HMRC yn siomedig iawn gan fod y pwyllgor hwn wedi cael sicrwydd dro ar ôl tro na fyddai camgymeriadau fel hyn yn digwydd," meddai.

"Codwyd pryderon gennym am y broses o nodi trethdalwyr Cymru yn ystod ein hymchwiliadau i ddatganoli cyllidol a chyllideb ddrafft Llywodraeth Cymru.

"Ar bob achlysur dywedwyd wrthym fod y mater mewn llaw ac roedd y gwersi o ddatganoli pwerau treth incwm i'r Alban, lle roedd problemau tebyg, wedi cael eu dysgu'n gadarn ac y byddan nhw'n cael eu gweithredu."