Glyn Davies i ymddeol fel aelod seneddol Maldwyn

  • Cyhoeddwyd
Glyn Davies AS
Disgrifiad o’r llun,

Mae Glyn Davies wedi cynrychioli Maldwyn fel AS ers bron i ddegawd

Bydd yr aelod seneddol Ceidwadol dros Faldwyn, Glyn Davies yn ymddeol wedi'r etholiad cyffredinol nesaf.

Mae wedi bod yn AS ers 2010, a chyn hynny roedd yn Aelod Cynulliad am wyth mlynedd ym Mae Caerdydd.

Bydd yr etholiad cyffredinol nesaf yn cael ei gynnal ar 5 Mai 2022 - os na fydd un yn cael ei alw cyn hynny yn sgil trafodaethau Brexit.

Dywedodd Mr Davies fod y penderfyniad i gamu i lawr wedi bod yn un "emosiynol ac anodd iawn".

'Ansicrwydd'

Ychwanegodd fod "yr ansicrwydd yng ngwleidyddiaeth" heddiw wedi dweud wrtho ei bod hi'n amser iawn i roi'r gorau i'w swydd.

Yn ddiweddar, mae Mr Davies wedi bod yn gefnogol o adael yr Undeb Ewropeaidd, ac yn gefnogol o arweinyddiaeth Prif Weinidog y DU, Theresa May.

Dywedodd Mr Davies wrth BBC Cymru: "Rwy'n dod lawr i Lundain ar ddydd Llun, treulio tri neu bedwar diwrnod yma, gwneud dim byd, troi mewn cylchoedd, gwneud dim penderfyniadau ac yna mynd nôl adre.

"Nid dyna dwi wedi gwneud yn fy mywyd. Dwi eisiau gweithio. Dydw i ddim eisiau dod yma a gwneud dim.

"Am y misoedd diwethaf, ry'n ni wedi bod yn troi mewn cylchoedd a gwneud dim."

Mewn datganiad, fe ddywedodd Cymdeithas y Ceidwadwyr yn Sir Faldwyn fod Mr Davies - sy'n 75 oed - wedi bod yn AS "eithriadol".

Dywedodd y grŵp y byddai ymgeisydd newydd yn cael ei ddewis "maes o law".