Atal taro plant: Rhybudd am wahanu rhieni a phlant

  • Cyhoeddwyd
SmacioFfynhonnell y llun, Getty Images

Mae uwch-heddweision wedi rhybuddio y gallai'r mesur fyddai'n atal taro plant arwain at orfod tynnu plant o gartrefi pe bai'r rhieni neu warchodwyr yn cael eu herlyn.

Maen nhw'n rhybuddio hefyd y gallai cyflwyno'r drosedd newydd gael effaith ar staffio rheng flaen.

Dywedon nhw hefyd ei bod yn bosib na fyddai plentyn yn cael byw gyda rhiant sy'n cael eu herlyn am smacio, i atal amharu ar yr erlyniad ac er mwyn gwarchod y plentyn.

Daeth y rhybudd i'r amlwg yn nhystiolaeth Grŵp Prif Swyddogion Heddlu Cymru a Grŵp Plismona Cymru Gyfan i bwyllgor plant y Cynulliad.

Mae eu hadroddiad yn dweud na ddylid tan-ystyried effaith emosiynol gwahanu plentyn rhag eu teulu, ac y gallai achosi canlyniadau i asiantaethau eraill, fel y rhai fyddai'n gorfod canfod llety i'r plentyn.

Cafodd pryderon eu codi hefyd y byddai'r gyfraith newydd yn cynyddu'r angen am adnoddau i adrannau sy'n ymchwilio i'r drosedd, gan olygu y gallai felly leihau'r adnoddau ar gyfer staffio rheng flaen.

Trafferth i ymwelwyr?

Byddai unrhyw honiad o smacio yn erbyn rhiant neu warchodwr - pe bai'n cael ei brofi neu beidio - hefyd yn cael ei ddatgelu ar archwiliadau CRB/DBS, allai arwain at drafferthion i unrhyw un sy'n gweithio â phlant.

Dywedodd Grŵp Prif Swyddogion Heddlu Cymru a Grŵp Plismona Cymru Gyfan i bwyllgor plant y Cynulliad eu bod yn cefnogi'r syniad o atal taro plant yng Nghymru, ond y gallai'r gyfraith newydd hefyd achosi trafferthion i ymwelwyr.

"Mae angen ystyried sut y byddai modd gwneud ymwelydd yn ymwybodol bod yr amddiffyniad ynglŷn â tharo plant sy'n bodoli yn Lloegr, ddim yn bodoli yng Nghymru," meddai'r adroddiad.

Fe wnaeth yr AC Ceidwadol, Janet Finch-Saunders hefyd rybuddio ddechrau'r mis ei bod yn pryderu y byddai'r ddeddf yn atal pobl rhag ymweld â Chymru.

Cafodd tystiolaeth y grwpiau eu cyflwyno cyn i'r pwyllgor glywed gan brif gwnstabl Heddlu De Cymru, Matt Jukes, a chadeirydd Grŵp Plismona Cymru Gyfan, Jeff Cuthbert, ddydd Iau.