Gorfod talu treth ar werth am ddarparu gwersi Cymraeg

  • Cyhoeddwyd
SSiW

Mae cwmni sy'n darparu gwersi Cymraeg ar y we wedi darganfod bod rhaid iddyn nhw dalu treth ar werth (TAW) er nad ydi cwmnïau sy'n darparu gwersi Saesneg fel iaith dramor yn gorfod gwneud hynny.

Am y tro cyntaf ers ei sefydlu mae Say Something in Welsh wedi cyrraedd y trothwy ar gyfer talu'r dreth.

Mae Aran Jones, un o'r sylfaenwyr wedi dweud wrth raglen Post Cyntaf BBC Radio Cymru fod y sefyllfa yn annheg ac y gallai'r cwmni fod wedi defnyddio'r arian i hyrwyddo'r iaith ymhlith dysgwyr.

Mewn ymateb dywedodd llefarydd ar ran Llywodraeth Cymru mai mater i Lywodraeth y Deyrnas Unedig ydy pennu TAW.

Dywedodd y Swyddfa Dollau fod Llywodraeth y DU "wedi ymrwymo i gefnogi'r iaith".

Gwersi i Jeremy Vine

Cwmni masnachol ydy Say Something in Welsh, sy'n cynnig gwersi ar y we i dros 15,000 o bobl ledled y byd.

Oherwydd llwyddiant masnachol y cwmni maen nhw bellach yn gorfod talu treth ar werth, ond petai nhw'n cynnig gwersi Saesneg ail-iaith dywedodd Mr Jones y bydden nhw'n cael eu heithrio rhag talu.

Yn gynharach eleni fe roddodd Mr Jones wers i'r cyflwynydd radio Jeremy Vine.

Roedd Mr Vine wedi gwneud sylwadau am y Gymraeg ac ar ôl iddo sylweddoli maint y gwrthwynebiad i'w sylwadau cytunodd y cyflwynydd i gael gwers Gymraeg ar yr awyr.

'Anfon £20,000 i San Steffan'

Wrth ymateb i'r dreth ar werth dywedodd Mr Jones: "'Da ni newydd fynd dros y trothwy TAW sy'n codi 20% ar gyfer ein trosiant i gyd.

"Â ninnau'n gwmni bach sy'n cyflogi saith o bobl, mae'n creu amser eithaf heriol i ni.

"Mae yna eithriad ar gyfer y Saesneg sydd ddim yn bodoli ar gyfer y Gymraeg - sy'n dipyn o sioc.

"Os oes yna un o'r ddwy iaith yna sydd angen help llaw - dim y Saesneg ydy hi, ond y Gymraeg.

"Mae'n bwysau ychwanegol - er enghraifft y mis yma roedd rhaid i ni anfon £20,000 i San Steffan - bydden ni wedi gallu gwario'r arian yna ar hysbysebu i gyrraedd mwy o ddysgwyr yng Nghymru a hyd yn oed yng ngogledd America, lle 'da ni'n gweld bod yna ddiddordeb mawr."

'Gofyn am eglurhad'

Dywedodd llefarydd ar ran Llywodraeth Cymru: "Mae Llywodraeth Cymru wedi ymrwymo i sicrhau miliwn o siaradwyr Cymraeg erbyn y flwyddyn 2050 a dydy hyn ddim yn ein helpu i gyrraedd y nod.

"Mi fyddwn ni'n gofyn am eglurhad gan y Swyddfa Dollau ar y mater."

Dywedodd llefarydd ar ran y Swyddfa Dollau "fod y llywodraeth wedi ymrwymo i gefnogi'r iaith er mwyn hyrwyddo siaradwyr a chymunedau ledled Cymru".

"Mae cyrsiau Cymraeg yn cael eu trin yn union yr un fath â chyrsiau addysgol eraill," meddai.

"Os ydy'r cyrsiau yn cael eu darparu gan sefydliadau addysgol, sydd ddim er elw, dydyn nhw ddim yn talu Treth ar Werth ond dydy hi ddim yn bosib o dan reolau'r Undeb Ewropeaidd i eithrio pob darparwr addysg rhag talu'r dreth."