Sêl bendith i ddatblygiad tai Crymych er gwaethaf pryderon

  • Cyhoeddwyd
Crymych
Disgrifiad o’r llun,

Mae'r cais yn cynnwys 56 o gartrefi, gan gynnwys tai fforddiadwy

Mae Cyngor Sir Penfro wedi cymeradwyo cais i godi 56 o dai a byngalos ym mhentref Crymych.

Penderfynodd pwyllgor cynllunio y sir o blaid y cynllun er gwaethaf pryder rhai am effaith bosib y datblygiad ar y Gymraeg ac ar lif traffig.

Roedd asesiad iaith gan y datblygwyr, Tai Ceredigion, yn dweud na fydd y cynllun yn cael effaith niweidiol ar yr iaith.

Yn ôl y datblygwyr bydd o leiaf 25% o'r tai yn rhai fforddiadwy.

Ychwanegodd llefarydd eu bod hefyd yn "gwbl ymwybodol o'n dyletswyddau i ystyried goblygiadau ar gyfer yr iaith Gymraeg".

'Effaith ar y Gymraeg yn andwyol'

Y bwriad yw codi'r tai ar dir fferm Villa ger prif stryd y pentref, sydd â phoblogaeth o tua 780.

Mae yna gynllun i godi amrywiaeth o dai:

  • 7 o dai 2 ystafell wely

  • 27 o dai 3 ystafell wely

  • 16 o dai 4 ystafell wely

  • 1 byngalo 2 ystafell wely

  • 3 byngalo 3 ystafell wely

  • 2 fyngalo 4 ystafell wely.

Bydd pump o'r unedau yn cael eu datblygu mewn perthynas ag Ymddiriedolaeth Tir Cymunedol a bydd mynedfa newydd i'r safle yn cael ei chreu ar dir Ysgol y Preseli.

Mae cyfrifiad 2011 yn dangos fod 60% o boblogaeth Crymych yn siarad Cymraeg a dyma un o gymunedau Cymreiciaf gogledd Penfro.

Disgrifiad o’r llun,

"Gallai'r effaith fod yn andwyol," yn ôl Rhidian Evans

Mae Tai Ceredigion yn mynnu y bydd y datblygiad ar gyfer pobl leol, ond mae Rhidian Evans, Prif Swyddog Menter Iaith Sir Benfro yn bryderus am yr effaith bosib ar yr iaith.

Dywedodd: "Mae'n ddatblygiad sylweddol iawn i bentref o faint Crymych. Gallai'r effaith ar y Gymraeg fod yn andwyol, os bydd nifer yn symud mewn i'r ardal ddim yn siarad Cymraeg.

"Beth fydd effaith hynny ar y gymuned, ar yr ysgol, ac ar yr ardal yn gyfan gwbl?

"Falle bydd pobl leol yn symud i'r tai newydd, sydd yn mynd i adael tai gwag yn y pentref, a hynny yn agor y drws i bobl symud mewn i'r ardal. Dwi yn pryderu y gallai hyn gael effaith ar yr iaith yn yr ardal."

Yn ôl asesiad iaith, sydd wedi ei baratoi gan gwmni Asbri ar ran y datblygwyr, ni fydd y datblygiad yn cael effaith niweidiol ar y Gymraeg.

Disgrifiad o’r llun,

Mae Catrin Davies yn poeni y bydd mwy o draffig yng Nghrymych

Pryder arall ymhlith pobl leol ydy traffig.

Dywedodd Catrin Davies sy'n byw ym mhentref Crymych: "Os ni'n mynd i gael mwy o dai, bydd mwy o draffig.

"Mae'r speed mae'r traffig yn mynd ar hyn o bryd yn ddigon clou fel ma' hi."

'Ystyried effaith ar yr iaith'

Fe wnaeth swyddogion cynllunio Cyngor Sir Penfro argymell cymeradwyo'r cais.

Dywedodd llefarydd ar ran Tai Ceredigion: "Trwy gydweithio gyda'r gymuned, y cynghorydd sir lleol ac Ymddiriedolaeth Tir Cymunedol Sir Benfro rydym yn edrych i ddatblygu ystâd fydd yn ddeniadol i bobl leol - ac yn cynnwys tai fforddiadwy i rentu ac i brynu trwy gynllun 'Rhentu i Berchnogi' sydd gan Lywodraeth Cymru.

"Bydd hyn yn galluogi'r rhai sy'n cael hi'n anodd prynu tai yn eu cynefin i rentu oddi wrthym ni am gyfnod o bum mlynedd ac yna prynu'r tŷ oddi wrth Tai Ceredigion. Rydym yn gobeithio hefyd y bydd modd i ni werthu plotiau ar y safle ar gyfer y rhai sydd am adeiladu cartref eu hunain.

"Fel cymdeithas dai sydd wedi ei lleoli yn y gorllewin rydym yn gwbl ymwybodol o'n dyletswyddau fel datblygwyr i ystyried goblygiadau ar gyfer yr iaith Gymraeg ym mhob agwedd o'n gwaith.

"Mae ystyriaeth i'r iaith Gymraeg yn cael ei wneud ym mhob dim rydym yn ei gyflawni ac rydym yn gwerthfawrogi'r pryder sydd wedi cael ei ddangos."