Perygl i brofiad ymwelwyr ag Eryri droi'n 'ddiflas'
- Cyhoeddwyd
Fe allai profiad ymwelwyr i barciau cenedlaethol Cymru droi'n ddiflas oherwydd diffyg buddsoddiad mewn isadeiledd, yn ôl pennaeth Parc Cenedlaethol Eryri.
Dywedodd prif weithredwr Awdurdod Parc Cenedlaethol Eryri, Emyr Williams bod angen gwella elfennau fel meysydd parcio.
Daw'r sylwadau ar ôl i dorfeydd o bobl gael eu gweld yn disgwyl i allu cyrraedd copaon Yr Wyddfa a Phen y Fan dros wyliau'r Pasg.
Dywedodd Llywodraeth Cymru ei bod wedi cyhoeddi £2.2m yn gynharach eleni er mwyn gwella seilwaith twristiaeth.
'Dan ei sang'
Gyda phenwythnos Gŵyl y Banc arall ar y gorwel dywedodd Mr Williams nad yw'r cynlluniau ymwelwyr gafodd eu gwneud hanner canrif yn ôl bellach yn addas i bwrpas.
"Mae nifer y bobl sy'n dod i Eryri wedi cynyddu'n arw dros y blynyddoedd diwethaf," meddai.
"Mae'r niferoedd sy'n mynd i fyny'r Wyddfa wedi dyblu o 300,000 i 600,000 yn y 10 mlynedd diwethaf, ac mae ffenomenon parciau cenedlaethol yn mynd yn fwy a mwy poblogaidd - mae bron pob penwythnos dan ei sang yma."
Yn gynharach yn y mis fe wnaeth y Cyngor Mynydda Prydeinig hefyd alw am fuddsoddi yn yr isadeiledd o amgylch mynyddoedd Cymru er mwyn darparu ar gyfer y nifer cynyddol o ymwelwyr.
Dywedodd Mr Williams bod hyn hefyd wedi rhoi pwysau ar yr amgylchedd a'r gymuned leol.
"Mae 'na wir broblem efo ceir, cael pobl i mewn ac allan, y cyfleusterau, y meysydd parcio, y toiledau," meddai.
"Y problemau sy'n cael eu creu yn y gymuned leol, a hefyd ar y mynyddoedd eu hun, achos mae'r llwybrau yn gweld effaith yr holl draed.
"Mae'r isadeiledd sy' gyda ni ar hyn o bryd wedi cael ei roi mewn lle rhyw hanner canrif yn ôl, yn y 70au, ac mae wedi gwneud yn dda, ond mae effaith mwy o bobl a phoblogrwydd yr ardal yn dangos ein bod angen edrych ar be fath o isadeiledd sydd ei angen am yr 50 mlynedd nesaf."
'Gyrru pobl i ffwrdd'
Mae awgrym wedi bod yn y gorffennol y gallai ymwelwyr ag Eryri gyfrannu tuag at gostau cynnal a chadw'r parc cenedlaethol.
Dywedodd Mr Williams nad yw am i brofiad ymwelwyr droi'n annymunol oherwydd ffactorau fel diffyg llefydd parcio a llwybrau'n dirywio.
"Byddai hynny'n gyrru pobl i ffwrdd yn y pen draw, ac mae 'na drafod ynglŷn â hynny wedi bod yn y wasg yn ddiweddar, yn benodol efo'r parcio," meddai.
"Da ni'n poeni y bydd ansawdd y mynydd yn mynd yn salach, ac ardaloedd eraill hefyd."
Dywedodd llefarydd ar ran Llywodraeth Cymru ei bod yn "wych gweld dechrau mor gadarnhaol i'r tymor twristiaeth yng Nghymru".
"Yn gynharach eleni, cyhoeddwyd £2.2m er mwyn gwella ein seilwaith twristiaeth, gan gynnwys gwelliannau i barcio, llwybrau beicio a thoiledau, a byddwn yn parhau i weithio gyda'n parciau cenedlaethol ac awdurdodau lleol i wneud mynediad i'n cyrchfannau mwyaf poblogaidd yn well fyth," meddai.
"Ein strategaeth yw datblygu twristiaeth mewn ffordd gynaliadwy ledled Cymru, ac mae annog ymwelwyr i ganfod ardaloedd a chyrchfannau newydd drwy gydol y flwyddyn yn rhan bwysig o'r Flwyddyn Darganfod ac o brosiect Ffordd Cymru."
Straeon perthnasol
- Cyhoeddwyd4 Mai 2019
- Cyhoeddwyd19 Mawrth 2018
- Cyhoeddwyd13 Mai 2019