Argymell cynllun rhodd i ymwelwyr â'r Wyddfa

  • Cyhoeddwyd
WyddfaFfynhonnell y llun, Matthew Cattell/Samsung

Mae'n bosib y bydd ymwelwyr ag Eryri yn gallu cyfrannu tuag gostau cynnal a chadw'r parc cenedlaethol, fel rhan o gynllun newydd.

Mae cynllun i ofalu am ddyfodol Yr Wyddfa yn cael ei gyhoeddi gan Bartneriaeth Yr Wyddfa ddydd Llun.

Y bwriad yw mynd i'r afael â'r heriau a bygythiadau mae mynydd uchaf Cymru yn ei wynebu, gan geisio sicrhau'r dyfodol i'r mynydd a'r ardaloedd o'i amgylch.

Mae'r Wyddfa'n denu 500,000 o ymwelwyr yn flynyddol, gyda'r niferoedd yn rhoi pwysau ar dirwedd a chynefinoedd y fro.

Cynllun rhodd

Mae cynllun y bartneriaeth yn argymell cyfres o newidiadau i faterion fel parcio ac adeiladau'r ardal, a gweithredu cynllun rhodd ymwelwyr i gyfrannu at gostau cynnal a chadw.

Llynedd, fe wnaeth swyddog undeb amaethwyr awgrymu codi tâl am gerdded Yr Wyddfa, gan ddweud bod £10 yn bris teg i wneud hynny.

Ar y pryd dywedodd Parc Cenedlaethol Eryri y byddai'n anymarferol codi tâl, ond bod cynllun peilot o roddion gan ymwelwyr sydd am warchod yr ardal ar waith.

Yn ogystal â'r cynllun rhodd, mae'r bartneriaeth yn awgrymu cael rhagor o siaradwyr Cymraeg i weithio o fewn y sector dwristiaeth awyr agored i helpu amddiffyn y tirlun.

Ymhlith argymhellion eraill y cynllun mae:

  • Cefnogi a hyrwyddo cyfleoedd swyddi o ansawdd ar gyfer pobl leol;

  • Datblygu a chefnogi prosiectau sy'n dathlu iaith a diwylliant ynghyd ag annog parch tuag at yr ardal;

  • Gwella isadeiledd ac adeiladau i ymwelwyr;

  • Annog gwelliant i wasanaeth bysia'r Sherpa a mynd i'r afael â phroblemau parcio;

  • Datblygu ac ehangu cynlluniau Ceidwaid Ifanc, Wardeiniaid Gwirfoddol a Llysgenhadon;

  • Cynyddu nifer y Cymry Cymraeg sy'n gweithio yn y sector awyr agored.

Disgrifiad o’r llun,

Mae'r Wyddfa yn atyniad poblogaidd iawn, yn enwedig yn ystod yr haf

Dywedodd Uwch Warden Awdurdod y Parc Cenedlaethol, Helen Pye bod denu ymwelwyr yn "wych" i'r economi ond ddim heb "effeithiau a heriau", gan gynnwys trafferthion parcio, erydu llwybrau a chŵn yn tarfu ar anifeiliaid fferm.

Ychwanegodd bod sawl agwedd i'r cynllun: "Mae sawl thema, a'r cynta' ydy trio 'neud yn siŵr bod pobl sy'n ymweld â'r ardal yn dechrau parchu mwy ar yr ardal, a byddwn ni'n 'neud hynny drwy'r wybodaeth 'da ni'n ei roi allan i bobl, 'neud yn siŵr bod wardeniaid a gwirfoddolwyr yna i roi gwybodaeth.

"'Da ni hefyd yn mynd i 'neud lot mwy o ran yr adeiladau yn yr ardal, yr isadeiledd, a thrio delio efo'r problemau parcio hefyd."

Dywedodd bod sawl grŵp gwahanol wedi dod at ei gilydd i lunio'r cynllun: "Drwy weithio 'efo'n gilydd, fedrwn ni ddod yn lot fwy effeithiol am reoli'r ardal."