AC heb gyhoeddi ei fod yn cyflogi aelod o'i deulu
- Cyhoeddwyd
Gall Aelod Cynulliad fod wedi torri rheolau'r sefydliad drwy beidio â chyhoeddi ei fod yn cyflogi aelod o'i deulu, yn ôl gwybodaeth sydd wedi dod i law BBC Cymru.
Mae David Rowlands AC, sydd wedi symud o UKIP i gynrychioli Plaid Brexit, yn cyflogi dau aelod o'i deulu fel staff cynorthwyol.
Er bod y Cynulliad wedi cael gwybod am gyflogaeth ei wraig, Keryn, nid oedd swydd ei ferch, Rhiannon, wedi ei gyhoeddi.
Mae un o gynorthwywyr Mr Rowlands wedi cymryd y bai am beidio â rhoi gwybod i'r awdurdodau perthnasol.
Dywedodd Comisiwn y Cynulliad ei fod yn "ddyletswydd ar yr Aelod Cynulliad perthnasol" i gyhoeddi gwybodaeth o'r fath.
Yn ôl rheolau'r Cynulliad, mae'n rhaid i ACau roi gwybod am unrhyw aelodau o'r teulu sy'n derbyn arian cyhoeddus. Mae ganddynt bedair wythnos o ddechrau'r swydd i wneud y cyhoeddiad.
Dywedodd ffynonellau agos i Mr Rowlands ei fod wedi cyflogi ei ferch ers dros flwyddyn bellach.
'Camgymeriad'
Ond mae Ian Williams, un o gynorthwywyr Mr Rowlands, yn dweud mai ef oedd ar fai: "Fe wnaethon nhw ofyn i mi wneud, fy mai i yw e. Wnes i anghofio."
Dywedodd Mr Rowlands: "Roedd e'n gamgymeriad gan Ian... fedra i ddim dweud llawer mwy."
Dywedodd AC Plaid Cymru, Rhun ap Iorwerth, ei fod yn "disgwyl y bydd David Rowlands yn dymuno cyfeirio ei hun" at bwyllgor safonau'r Cynulliad.
Mae rheolau'r Cynulliad yn dweud yn glir mai cyfrifoldeb ACau yw cyhoeddi materion o'r fath.
Mae Plaid Brexit wedi gwrthod gwneud sylw.
Straeon perthnasol
- Cyhoeddwyd15 Mai 2019
- Cyhoeddwyd20 Mai 2019