Marchnad bwydydd arbenigol Cymru yn tyfu'n sylweddol
- Cyhoeddwyd
Mae'r farchnad am fwydydd arbenigol - bwydydd heb gynhwysion sy'n gwneud rhai pobl yn sâl - wedi tyfu'n sylweddol yng Nghymru.
Roedd cynnydd o 44% i £62.3m rhwng mis Chwefror 2017 a 2018, yn ôl dadansoddwr manwerthu Kantar Worldpanel.
Bwydydd heb glwten yw'r cynnyrch mwyaf poblogaidd o'u plith yn ôl elusen Coeliac UK.
Mae tua 31,000 o bobl yng Nghymru â chlefyd seliag, a diet am oes yw'r ffordd o'i reoli.
Nid alergedd yw clefyd seliag ond clefyd awto-imiwn, lle mae system imiwnedd corff unigolyn yn gwneud niwed i'r coluddyn bach pan fydd y person yn bwyta glwten.
'Teimlo'n sâl am oriau'
Mae gan y chwiorydd Cerys a Cadi Davage o Gaerdydd glefyd seliag ac felly'n gorfod osgoi glwten, sy'n bresennol mewn bara a grawnfwydydd eraill.
Roedd gan Cerys, 17 oed, symptomau'r clefyd yn fabi a chafodd ddiagnosis yn saith oed.
"Dwi'n gorfod bod yn ofalus iawn o be' dwi'n ei fwyta - dwi'n gorfod checio pecynnau bwyd bod 'na ddim glwten o gwbl ynddyn nhw," meddai.
"Yn y tŷ mae hefyd angen gwneud yn siŵr 'mod i ddim yn cross-contaminatio unrhyw fwyd, defnyddio cyllyll a ffyrc gwahanol a byrddau bara - mae angen i fi wneud yn siŵr 'mod i'n cadw popeth ar wahân.
"Os dwi'n bwyta bwyd sy'n cynnwys glwten, dwi'n teimlo'n sâl am oriau, byddwn ni'n cael poenau bol, yn taflu i fyny.
"Symptom arall dwi wedi'i gael yw bod yn anemig iawn a chael coesau a breichiau tenau, a dwi'n mynd yn bloated hefyd."
Dywedodd Cadi, 15, ei bod yn mynd â brechdanau i'r ysgol gan fod diffyg darpariaeth yno, ond ychwanegodd ei bod yn haws mynd i fwytai nawr.
"Ond mae dal angen checio o flaen llaw i weld os oes bwyd addas yno," meddai.
13 mlynedd am ddiagnosis
Protein mewn gwenith, rhyg a haidd yw glwten ac mae rhai pobl yn sensitif i geirch hefyd.
Ar gyfartaledd, mae'n cymryd 13 mlynedd i gael diagnosis yng Nghymru ac yn ôl Coeliac UK, Cymru sydd â'r cyfraddau diagnosis isaf ym Mhrydain - gyda dim ond 29% o'r rhai sydd â'r cyflwr wedi cael diagnosis.
Mae'r oedi mewn diagnosis yn gallu creu problemau iechyd hirdymor difrifol i nifer o bobl, yn ôl yr elusen.
Gall fwydydd heb glwten fod yn ddrud ac yn anodd cael gafael arnyn nhw, ac felly mae cleifion yn gallu cael presgripsiwn gan eu meddyg.
Yn ôl mam Cerys a Cadi, Julia Davage, mae cael bwyd ar bresgripsiwn wedi bod yn gymorth mawr i'w theulu ac wedi "achub eu bywydau nhw".
"Da ni'n ffodus iawn ein bod ni'n cael bwyd ar bresgripsiwn, mae'n hanfodol bod hynny'n parhau achos mae 'na fersiynau o fwyd ar bresgripsiwn sy'n fwy iachus, dydyn ni ddim yn gallu prynu.
"Er enghraifft 'da ni'n gallu cael pasta brown ar bresgripsiwn - dydyn ni ddim yn gallu prynu pasta brown."
Yn 2017 cafodd £1,683,346 ei wario ar bresgripsiynau i bobl â chlefyd seliag yng Nghymru, ond mae Coeliac UK yn dweud mai dim ond 0.3% o'r holl wariant ar bresgripsiynau yw hyn.
"Mae hyn yn ei gwneud yn un o'r triniaethau mwyaf cost-effeithiol ar gyfer cyflwr hirdymor o fewn y gwasanaeth iechyd yng Nghymru," meddai'r elusen.
Straeon perthnasol
- Cyhoeddwyd15 Mai 2018
- Cyhoeddwyd15 Mai 2018
- Cyhoeddwyd27 Chwefror 2016