Y Gymraeg yn cael ei 'hesgeuluso a'i hisraddio' i fudwyr
- Cyhoeddwyd
Mae'r iaith Gymraeg yn cael ei "hesgeuluso a'i hisraddio" pan ddaw hi at ddysgu mudwyr a ffoaduriaid sy'n setlo yng Nghymru, yn ôl academydd.
Mae Dr Gwennan Higham o Brifysgol Abertawe yn dweud bod gan ffoaduriaid a cheiswyr lloches awydd gwirioneddol i ddysgu Cymraeg a Saesneg, ond bod y ffocws ar hyn o bryd ar ddysgu Saesneg yn unig.
Mae gan ffoaduriaid hawl i gyrsiau Saesneg sy'n cael eu hariannu gan Lywodraeth Cymru, ond nid o reidrwydd rhai Cymraeg.
Dywedodd Llywodraeth Cymru bod darparwyr gwersi Saesneg yn cael eu hannog i helpu dysgwyr i integreiddio Cymraeg i'w gwersi, a bod dysgwyr yn cael eu hannog i fynychu gwersi Cymraeg.
'Pwysig iawn dysgu Cymraeg'
Mae Xiao Xia Chen a'i theulu wedi symud o China i Gymru, ac mae hi bellach yn dysgu mewn cwrs sy'n cael ei redeg gan Dysgu Cymraeg Casnewydd.
Y Groes Goch Brydeinig sydd wedi trefnu'r gwersi, ond dim ond ar ôl cais penodol gan y menywod sydd wedi dod i'r ddinas yn ceisio lloches.
"Yn yr ysgol, maen nhw'n dysgu Cymraeg i fy mab," meddai.
"Pan mae'n dod adref, mae'n canu cân ac mae fy ngŵr yn gofyn i mi, 'beth mae'n ei ddweud?'
"'Sai'n gwybod' oedd yr ateb, a doeddwn i ddim yn gwybod nes i mi fynd i wersi Cymraeg.
"Mae'n bwysig iawn dysgu Cymraeg yng Nghymru, achos mae'r iaith yn hyfryd a dydyn ni ddim eisiau ei cholli.
"Mae'n well gen i fod fy mhlant dysgu mwy o ieithoedd."
'Colli cyfle'
Er y diddordeb yma yn y Gymraeg, yn ôl Dr Higham dyw ffoaduriaid yn aml ddim yn cael y cyfle i ddysgu'r iaith.
"Does dim polisi swyddogol gan Lywodraeth Cymru i fewnfudwyr sydd eisiau dysgu Cymraeg," meddai.
"Hyd yn hyn, Saesneg yw'r unig iaith sy'n cael ei farchnata neu ei dargedu i fewnfudwyr.
"Bydden i'n dweud i raddau bod y Gymraeg yn cael ei hesgeuluso a'i hisraddio i fewnfudwyr."
Ychwanegodd Dr Higham bod "cyfle yn cael ei golli" drwy beidio annog mewnfudwyr i ddysgu'r ddwy iaith.
"Mae'r Gymraeg yn gallu cynnig lot i fewnfudwyr ond dydyn nhw ddim yn gwybod amdano fe, ac ddim yn cael y cyfle i ddysgu'r iaith," meddai.
"Mae'r Gymraeg yn gallu cynnig rhywbeth ychwanegol i fewnfudwyr o ran integreiddio, teimlo'n rhan o'r gymuned, o gymdeithas, ond mae'n bwysig iawn o ran swyddi hefyd.
"Mae'n gallu gwneud nhw deimlo'n gartrefol, yn rhan o Gymru, ac yn ddinesydd o Gymru hefyd.
"Maen nhw'n gweld e fel rhywbeth positif - mae'n rhywbeth maen nhw'n gallu gwneud yn ogystal â'r Saesneg, a does dim rhaid dewis rhwng un iaith a'r llall."
Yn ôl y Ganolfan Dysgu Cymraeg Genedlaethol, maen nhw'n gweithio'n galed i gynyddu nifer y mewnfudwyr sy'n dysgu'r iaith.
"Ein nod yw sicrhau bod dysgwyr o bob cefndir yn cael croeso, cefnogaeth ac anogaeth ar eu taith i ddysgu'r iaith," meddai'r prif weithredwr, Efa Gruffudd Jones.
"Mae'r ganolfan wedi bod yn gweithio gyda'i 11 darparwr i gynyddu'r ddarpariaeth ar gyfer pobl o gefndiroedd amlddiwylliannol ac mae cyrsiau wedi eu cynnal mewn sawl rhan o Gymru, gan gynnwys Wrecsam a Chasnewydd.
"Yng Nghaerdydd, mae'r ganolfan wedi cefnogi cynllun ei darparwr, Dysgu Cymraeg Caerdydd, i gynyddu'n benodol y niferoedd o ffoaduriaid a cheiswyr lloches sy'n dysgu'r iaith.
"Mae Dysgu Cymraeg Caerdydd wedi cydweithio gyda nifer o bartneriaid i gynnig cyrsiau blasu dwys a chyrsiau lefel mynediad (dechreuwyr), yn ogystal ag ysgoloriaethau i ddysgwyr sy'n dymuno dysgu ar gwrs hirdymor."
'Integreiddio'r Gymraeg'
Dywedodd llefarydd ar ran Llywodraeth Cymru: "Mae gan ffoaduriaid fynediad i bob rhaglen am wersi Saesneg sy'n cael eu hariannu gan Lywodraeth Cymru, ac mae Llywodraeth y DU yn ariannu gwersi sy'n benodol i ffoaduriaid trwy awdurdodau lleol.
"Mae darparwyr y gwersi Saesneg yn cael eu hannog i helpu i ddysgwyr integreiddio'r Gymraeg yn eu gwersi lle bo'n bosib, ac mae'r ffoaduriaid eu hun yn cael eu hannog i ymuno a'r rhaglen Cymraeg i Oedolion."
Yn ôl Theresa Mgadzh Jones, cydlynydd gwasanaethau ffoaduriaid a cheiswyr lloches i'r Groes Goch yng Nghymru, mae cael mynediad at wersi Cymraeg yn gallu bod yn anodd iawn.
"Er bod y ddarpariaeth yno iddyn nhw ddysgu Saesneg - oherwydd bod yna ddisgwyl iddyn nhw ddysgu'r iaith - mae yna rwystrau o fewn hynny hefyd.
"Ond gyda'r Gymraeg, mae'n anoddach fyth achos os nad ydyn nhw'n gwybod bod yr iaith yn bodoli hyd yn oed, ni fyddan nhw'n gwybod lle i fynd i'w dysgu hi 'chwaith.
"Rydyn ni wedi bod yn lwcus iawn yma achos mae Cymraeg i Oedolion Gwent wedi rhoi'r cyfle yma i ni, drwy gynnal dosbarth blasu 10 wythnos, a nawr mae'r Ganolfan Dysgu Cymraeg Genedlaethol yn cynllunio i ddechrau gwersi i ffoaduriaid drwy Gymru gyfan."
Dywedodd Xiao Ling Zhao, dysgwr arall yn y dosbarth sy'n cael ei ariannu gan y Groes Goch: "Roeddwn i eisiau dysgu Cymraeg oherwydd bod yr iaith ym mhobman.
"Rwy'n falch iawn bod fy mhlant yn gallu siarad Cymraeg ac roeddwn i eisiau deall yr hyn maen nhw'n ei ddweud."
Straeon perthnasol
- Cyhoeddwyd8 Mai 2019
- Cyhoeddwyd12 Hydref 2018
- Cyhoeddwyd13 Medi 2018