Cynnig awr yr wythnos i helpu dysgwyr Cymraeg

  • Cyhoeddwyd
Llio AngharadFfynhonnell y llun, Llio Angharad
Disgrifiad o’r llun,

Iechyd da! Mae Llio Angharad yn cynnig ei hamser i bobl sydd eisiau dysgu mwy o Gymraeg, neu ymarfer yr iaith, dros ddiod (neu ddau...)

Beth petai pawb sy'n siarad Cymraeg yn ymrwymo i roi awr yr wythnos i helpu pobl eraill sydd eisiau siarad yr iaith?

Dyna gynnig syml Llio Angharad mewn neges drydar, dolen allanol yr wythnos hon - pwy sydd awydd cyfarfod dros ddiod am awr neu ddwy i ymarfer eu Cymraeg efo fi yng Nghaerdydd?

Mae wedi ei synnu gan yr ymateb mae hi wedi ei gael gyda degau o bobl yn cysylltu yn awyddus i ddechrau dysgu, ymarfer neu gymdeithasu yn yr iaith.

Bellach mae'r cynnig i gyfarfod un dysgwr wedi troi'n ddigwyddiad cymdeithasol, anffurfiol, i ddysgwyr o bob lefel, mewn bar yng Nghaerdydd gyda help rhai o'i ffrindiau sydd hefyd wedi cytuno i roi awr o'u hamser.

Ffynhonnell y llun, Twitter

"Mae 'na lot fawr o ddiddordeb wedi bod, lot o bobl wedi cysylltu yn dweud eu bod nhw eisiau cychwyn yn ôl neu eu bod nhw'n gwybod rhywfaint ond ddim yn cael cyfle i ymarfer - a hwnna ydi o, dydi pobl ddim yn cael cyfle i ymarfer.

"Y pwynt ydi cael gwneud hynny mewn awyrgylch anffurfiol, ddim mewn dosbarth neu efo'r bobl ti'n dysgu efo nhw, ond efo pobl ti'n joio mynd allan am ddrinc efo nhw."

Mae'r ymateb wedi dod o'r tu hwnt i Gaerdydd hefyd gyda phobl o Leeds a Sir Hertford a gogledd a chanolbarth Cymru hefyd yn gofyn a oes rhywun yn eu hardal nhw'n gallu gwneud rhywbeth tebyg.

Roedd Llio wrth ei bodd yn gweld bod pobl eraill wedi copïo ei neges ar Twitter a rhai eisoes wedi trefnu i gwrdd gyda dysgwyr Cymraeg am sgwrs yn eu hardal nhw.

"Mae wedi agor sgwrs i bobl fynd 'ie, dwisho gwneud rhywbeth tebyg' ac i siaradwyr Cymraeg ddweud, 'ie, 'na i gynnig fy amser'.

Ffynhonnell y llun, Twitter

Daeth y syniad i Llio wrth iddi helpu ei phartner i ddysgu'r iaith. Roedd yn teimlo nad oedd ganddo unman i ymarfer heblaw am adre efo hi.

"Dwi'n gwybod fod y canolfannau dysgu Cymraeg wedi dechrau'r prosiect Siarad ac fe wnes i feddwl, wel dwi eisiau rhoi awr i helpu hefyd.

"Be ydi awr yr wythnos pan mae rhywun yn cerdded nôl o'r gwaith neu amser cinio? Jyst i gael drincsan mewn lleoliad mae'r ddau ohonan ni'n mwynhau, yn hollol anffurfiol, lle maen nhw'n cael ymarfer y Gymraeg?

"Os wyt ti'n dysgu Cymraeg, ti'n gallu bod ychydig ar dy ben dy hun pan mae'n dod i ymarfer os nad wyt ti'n adnabod rhywun - ac mae'n anodd gofyn i rywun, 'ydych chi'n fodlon siarad Cymraeg efo fi?' Mae o ychydig bach yn rhyfedd, fel ryw first Tinder date!

"Felly mi wnes i feddwl y gwna i fod yr un sy'n cynnig fy amser i, achos mae'n haws imi wneud hynny na bod nhw'n gofyn 'oes rhywun eisiau'n helpu fi i siarad neu ymarfer Cymraeg?'

"Dydi dysgwyr weithiau ddim yn gwybod lle i droi, does gennym ni ddim arwydd mawr ar ein pennau yn dweud 'dwi'n siarad Cymraeg, tyrd i siarad efo fi'.

"Mae wedi bod yn neis gweld cymaint o bobl ifanc sydd eisiau dod - a phobl sy'n ffrindiau efo fi ar Twitter nad o'n i'n gwybod eu bod nhw'n siarad Cymraeg hyd yn oed."

Dywed Llio ei bod yn annog pobl i gymryd rhan yn mhrosiect Siarad y canolfannau dysgu Cymraeg, dolen allanol, sy'n paru siaradwyr Cymraeg hyderus gyda dysgwyr mewn sefyllfa anffurfiol.

Mae digwyddiadau sgwrsio rhwng dysgwyr a siaradwyr rhugl yn cael eu trefnu mewn sawl ardal hefyd.

Ffynhonnell y llun, Kristina Banholzer
Disgrifiad o’r llun,

Gallai cefnogi dysgwyr gyflawni rhywbeth mor syml a mage eu hyder i fynd i wyliau Cymraeg fel Tafwyl a'r Eisteddfod, meddai Llio

Fe sbardunodd y darlledwr Hywel Gwynfryn gynllun FfrindIaith yn 2013 i gysylltu dysgwyr â siaradwyr rhugl hefyd.

Ond mae Llio'n gobeithio bod ei threfniant hi yn fwy anffurfiol byth, "yn fwy organig, ddim yn gorfforaethol", ac yn rhywbeth y gall dysgwyr ei wneud yn ogystal â gwersi neu brosiectau eraill os ydyn nhw eisiau.

"Dwi jyst isho iddo fo fod yn griw o bobl yn dod am ddrinc, does na ddim lanyards, dim byd felly. Pan wnes i roi'r neges allan, do'n i ddim yn disgwyl cael digwyddiad yr wythnos nesa' gyda chymaint wedi ymateb, ond do'n i ddim eisiau dweud 'na' wrth bobl - mae'r gofyn yna.

"Mi fydd hefyd yn torri'r stigma - mae'n anodd gwybod sut i siarad efo dysgwr weithiau ac mae'n hawdd symud nôl i'r Saesneg. Ond os ti'n gwybod reit, rydyn ni yma i siarad Cymraeg, cael ambell ddrinc a noson dda... efallai fyddan ni yn Chippy Lane wedi meddwi am un o'r gloch y bore ond dio'm ots! Mae'n ffordd dda o gwrdd â phobl hefyd ac yn helpu pethau fel unigrwydd.

"Tasa pob un person sy'n siarad Cymraeg yn gwneud hyn fysan ni'n cael gymaint mwy o ddysgwyr, fysan ni'n ei dyblu'r nifer, ac mae angen eu cefnogi nhw. Os nad ydy ni'n eu cefnogi nhw, pwy fydd?"

Mae manylion y digwyddiad ar gyfrif Twitter Llio Angharad, dolen allanol

Hefyd o ddiddordeb: