"Os mae iaith yn bodoli, mae'n werth ei siarad"

  • Cyhoeddwyd
Disgrifiad,

Fe wnaeth Cymru Fyw gwrdd â Geordan Burress ar ymweliad â Chymru yn ddiweddar

Caneuon Cymraeg Super Furry Animals a ysbrydolodd Geordan Burress o Cleveland, Ohio i ddysgu Cymraeg gyntaf, a hynny yn ôl yn 2011.

Mae hi wedi teithio i Gymru am y tro cyntaf, ac wedi cael digon o gyfle i ymarfer ei Chymraeg a chwrdd â ffrindiau newydd yn ystod ei hwythnos yma.

Ac er ei bod yn gorfod dychwelyd adref i'r Unol Daleithiau, mae hi'n edrych ymlaen at ei hymweliad nesaf â Chymru yn barod.