Methu stopio dysgu Cymraeg

  • Cyhoeddwyd
Mae Geordan Burress wedi dysgu Cymraeg trwy gyfrwng y weFfynhonnell y llun, YouTube
Disgrifiad o’r llun,

Mae Geordan Burress wedi dysgu Cymraeg trwy gyfrwng y we

Doedd neb yn gwybod bod Geordan Burress, myfyrwraig o Cleveland, Ohio, yn dysgu Cymraeg tan i'r fideo yma ymddangos ar YouTube, dolen allanol yn ddiweddar.

Erbyn hyn, trwy gyfrwng Twitter a Facebook, mae nifer fawr o Gymry Cymraeg wedi cysylltu gyda hi i'w llongyfarch ac i ddangos eu cefnogaeth.

Bu Geordan yn egluro wrth Cymru Fyw pam yr aeth hi ati i ddysgu Cymraeg:

Cymru... rhan o Loegr?

Cyn i fi ddechrau dysgu Cymraeg, doeddwn i ddim yn rili gwybod dim byd am Gymru! Doeddwn i ddim yn siŵr ble oedd Cymru yn y Deyrnas Unedig - doeddwn i ddim yn siŵr os oedd Cymru yn rhan o Loegr... am rhyw reswm. Hefyd doeddwn i ddim yn gwybod dim am y diwylliant na'r iaith.

Dechreuais i ddysgu gyda'r cyrsiau SaySomethingInWelsh (SSIW, dolen allanol) sydd yn gwrs syml iawn i ddysgwyr. Wnaeth y cyrsiau 'ma fy helpu i gymaint gyda fy Nghymraeg, ac wedyn wnes i ddefnyddio cyrsiau BBC Cymru ar y we. Dwi ddim wedi gorffen efo'r cyrsiau eto, ond dwi ddim rili wedi cael amser rhydd i ddysgu mwy.

Wnes i ddechrau dysgu Cymraeg ar ôl gwrando ar gerddoriaeth Gymraeg. Dwi'n hoff iawn o gerddoriaeth Gruff Rhys ac roeddwn i'n gwrando ar ei gerddoriaeth lot pan wnes i benderfynu meddwl am ddysgu, ond o'n i jyst eisiau dysgu 'chydig bach! Ond ar ôl dechrau, roeddwn i eisiau dysgu mwy a mwy, a dwi ddim wedi stopio ers hynny.

Disgrifiad o’r llun,

Mae cerddoriaeth Gruff Rhys wedi ysbrydoli Geordan i ddysgu Cymraeg

Ar wahân i'r we, does gen i ddim ond un phrasebook bach gyda geirfa. Ond rili, dwi wedi dysgu popeth o'r we!

Dwi ddim wedi ffeindio dysgu Cymraeg yn anodd iawn. Efallai mae'n hawdd i fi achos dwi'n hoffi dysgu ieithoedd, neu achos dwi wedi bod yn dysgu ieithoedd ers oeddwn i'n ifanc a rwan dwi'n gwybod sut i'w dysgu nhw.

Hefyd mae SSIW yn arbennig wedi helpu fi gyda'r Gymraeg. Ond un peth heriol, ac yn wahanol, am y Gymraeg yw'r treigladau - maen nhw mor ddiddorol! Ond dwi'n mwynhau nhw.

Yn ffodus, rwan mae gen i lot o bobl i ymarfer Cymraeg efo nhw - mae pobl wedi gweld fy fideo ar YouTube ac maen nhw eisiau siarad 'da fi, felly dwi'n hapus iawn. Dwi'n gobeithio siarad gyda nhw i gyd yn fuan.

Mynd i Gymru rhyw ddydd?

Mae fy ffrindiau a'r teulu yn meddwl ei fod yn wahanol iawn ac yn meddwl ei fod o'n annisgwyl mod i'n dysgu Cymraeg. Dydyn nhw ddim yn deall pam mae gen i ddiddordeb mewn Cymraeg a Chymru, ond maen nhw'n fy nghefnogi i ac yn meddwl mae'n cŵl.

Dwi rili eisiau ymweld â Chymru, ond does dim amser 'da fi ar hyn o bryd, yn anffodus! Mae pob man yng Nghymru yn edrych yn ddiddorol ond mi hoffwn i ymweld â'r gogledd (yn arbennig achos mae pobl wedi deud fy mod i'n siarad gyda acen ogleddol) a Chaerdydd.

Mi fyddai'n deud i'r dysgwyr eraill: "Ti'n gallu ei wneud o! Mae dysgu iaith newydd yn cymryd amser. Trocha dy hun yn yr iaith, gwrandawa ar gerddoriaeth Gymraeg, gwylia rhaglenni teledu yn yr iaith, ac ymarfer gyda dysgwyr eraill!"

Mae cymaint o bobl wedi dysgu a ti'n gallu hefyd!

Ffynhonnell y llun, Twitter
Disgrifiad o’r llun,

Y tweet wnaeth ddod ag amlygrwydd i Geordan