Dod i adnabod Llywydd y Dydd: Betsan Powys

  • Cyhoeddwyd
Betsan

Cyn-olygydd BBC Radio Cymru, Betsan Powys yw Llywydd y Dydd yn Eisteddfod Genedlaethol yr Urdd yng Nghaerdydd ddydd Iau.

Yn wreiddiol o Gaerdydd, fe gafodd ei magu yn ardal Parc y Rhath ac fe fu'n ddisgybl yn ysgolion Bryntaf a Llanhari - cyn i'r teulu symud am gyfnod i Dregarth.

Treuliodd flynyddoedd ym mhrifysgolion Aberystwyth a Rhydychen, a blwyddyn gyntaf un ei gyrfa gyda'r BBC yn Llundain, cyn anelu'n ôl am Gaerdydd i fwrw gwreiddiau o'r newydd.

Bu'n gweithio fel newyddiadurwr i'r BBC ac i HTV Cymru am dri degawd, a bellach mae Betsan a'i phartner Dylan yn trio sicrhau bod eu plant, Manon a Madog, sy'n ddisgyblion yn Ysgol Plasmawr, ill dau yn gwneud yn fawr o bob dim sydd gan Gaerdydd i'w gynnig.

Ei neges ym Mae Caerdydd yw bod yr Urdd yn rhoi cyfleoedd gwerthfawr i bobl ifanc Cymru, a hynny mewn cyfnod pan mae'n anoddach nag erioed i fod yn berson ifanc.

Beth yw eich atgof cyntaf/hoff atgof o'r Urdd?

Cael mynd fel criw o Ysgol Bryntaf i gystadlu yn y steddfod a Mair a fi'n aros 'efo teulu - a theimlo'n ddewr iawn.

Dwi'n cofio Miss Gibby'n cyrraedd yn athrawes newydd sbon, yn ifanc ac yn hynod o ffasiynol, a ni'r merched yn dwlu arni.

Fe benderfynodd Miss Gibby hyfforddi grŵp cerddoriaeth greadigol. 'Y Môr' oedd y thema, a dwi'n cofio llafarganu enwau pysgod, a chyfri fel peth gwyllt i wneud yn siŵr mod i'n taro'r offeryn rhyfedd ac ofnadwy oedd gen i ar yr eiliad iawn!

Disgrifiwch y profiad o gystadlu yn yr Eisteddfod i berson o'r gofod

Oriau maith o ddysgu beth yw amynedd a cholli'n foneddigaidd - ac ambell eiliad o lawenydd buddugoliaethus sy'n denu rhywun nôl… a nôl….

Ydy'r profiad o gystadlu wedi bod o fudd yn eich bywyd proffesiynol?

Mae'n siŵr bod wynebu cynulleidfa, gorfod dysgu geiriau a pheidio anghofio pan fo'r nerfau'n cosi, a chofio cyfathrebu'n glir "hyd yn oed gyda'r rheiny YN Y CEFN" wedi bod o fudd mawr.

Pa gystadleuaeth newydd hoffech chi weld yn rhan o'r Eisteddfod?

Beth am gystadleuaeth arwain côr? Mae gymaint o gorau yng Nghymru ac mae arwain yn gymaint o grefft - beth am brofi a hybu sgiliau arwain corawl?

Unrhyw awgrymiadau ar gyfer y rheiny fydd yn ymweld â'r Eisteddfod ond sydd ddim yn gyfarwydd ag ardal Caerdydd a'r Fro?

Os cewch chi gyfle, ewch am dro ar hyd yr arfordir i gyfeiriad Penarth, Y Barri a thu hwnt.

Mae'n rhan aruthrol o hardd o arfordir Cymru, y golygfeydd o Gaerdydd yn rhai gwych, a hanes y brifddinas a'i diwydiant yn dod mor fyw.

Beth, yn eich barn chi, yw'r peth gorau am yr Urdd?

Cyfleon, cyfleon, cyfleon.