Betsan Powys: "Anoddach nag erioed i fod yn ifanc"

  • Cyhoeddwyd

Ar ddydd Iau, y newyddiadurwr a chyn-olygydd BBC Radio Cymru Betsan Powys yw Llywydd y dydd yn Eisteddfod yr Urdd Caerdydd a'r Fro.

A hithau'n fam i ddau o bobl ifanc, heddiw ar y maes dywedodd Betsan Powys ei bod hi'n "anoddach nag erioed i fod yn ifanc."

"Dwi'n siwr bod y ffaith mod i'n fam i bobl ifanc yn rhan o'r ysgogiad i feddwl am y peth. Dwi ffili help â theimlo ei bod hi'n gyfnod anodd i fod yn ifanc.

"Mae'r cyfryngau cymdeithasol yn cynnig cyfleoedd bendigedig - ond mae'r pwysau hefyd yn gwbwl amlwg, lle mae llygaid rhywun arnoch chi wastad.

"Mae'n fyd lle mae 'na donnau mawr o newid i bobl ifanc, yn economaidd, yn wleidyddol, a dwi'n meddwl ei bod hi'n gyfnod lle mae pwysau cyson arnyn nhw."

Wrth siarad am sut bod yr Urdd wedi bod yn "rhan ganolog o'i bywyd" a'r cyfleoedd amhrisiadwy y mae hi a'i phlant wedi eu cael o fod yn aelodau o'r mudiad dros y blynyddoedd, roedd Betsan hefyd yn dweud ei "bod hi'n fwy allweddol nag erioed" bod mudiad yr Urdd yn rhoi llais i blant a phobl ifanc.

Ddydd Llun, fe wnaeth criw o rieni ac athrawon ysgolion Treganna a Phlasmawr yng Nghaerdydd, gyrraedd maes yr Eisteddfod ar ôl beicio o Gaergybi i Fae Caerdydd, ac yn eu plith roedd brawd Betsan, Rhys Powys a'i wraig Sian.

Roedden nhw'n codi ymwybyddiaeth o sefydliad Manon Jones i "gynnig cymorth a gwybodaeth ymarferol i bobl ifanc sy'n cael trafferth gyda phroblemau iechyd meddwl" er cof am ferch ifanc leol a laddodd ei hun y llynedd.

Ffynhonnell y llun, Sefydliad Manon Jones
Disgrifiad o’r llun,

Y reidwyr beics wedi cyrraedd Bae Caerdydd

"Profiad personol i ni, o gael sioc o golli merch ifanc roedden ni'n ei hadnabod. Roedd hi'n cystadlu yn yr Eisteddfod, roedd hi'n llawn bywyd, a gethon ni ein hysgwyd i'n calonnau ei bod hi - wythnos ar ôl troi yn un ar bymtheg - wedi dod â'i bywyd i ben.

"Mae rhywun yn sylweddoli, mai nid jyst dweud ei bod hi'n anodd ar bobl ifanc - mae hi'n anodd arnyn nhw.

"Felly mae unrhyw fudiad - fel yr Urdd - sy'n gwrando ar bobl ifanc, yn ymwneud â phobl ifanc ac yn siarad o'u plaid, ac mai eu llais nhw rydych chi'n ei glywed - mae hynny'n un werth chweil, ac yn haeddu ei werthfawrogi a'i drysori."

Hefyd o ddiddordeb: