Dod i adnabod yr actor Iwan Rheon
- Cyhoeddwyd
Iwan Rheon yw Llywydd y Dydd ar ddiwrnod agoriadol Eisteddfod Genedlaethol yr Urdd Caerdydd a'r fro.
Wedi ei fagu yn yr Eglwys Newydd, Caerdydd a'i addysgu yn Ysgol Gyfun Gymraeg Glantaf, mae Iwan yn wyneb cyfarwydd i nifer.
Roedd yn un o sêr y gyfres Pobol y Cwm, cyn cael rhan ar gyfres Misfits ar E4 ac yna ei gastio fel y gelyn gwyllt, Ramsay Bolton, ar gyfres boblogaidd Game of Thrones.
Tra'n siarad ar faes yr Eisteddfod ddydd Llun, dywedodd wrth Cymru Fyw bod yr Urdd wedi bod yn rhan "bwysig o fy mywyd proffesiynol."
Beth yw eich atgof cyntaf/hoff atgof o'r Urdd?
Dwi'n cofio pob math o bethau. O gystadlu yn yr eisteddfod gylch yn yr ysgol gynradd i fynd i Langrannog am y tro cyntaf. Cael dianc efo fy ffrindiau am ryw bum noson i ffwrdd o'n rhieni i sgïo a gyrru beiciau cwad!
Fues i'n cystadlu yn yr ymgom un flwyddyn, a dyna sut ces i fy rhan yn Pobol y Cwm, achos mai un o'r tîm, Bethan Jones oedd yn beirniadu. Mae e wedi bod yn rhan mor bwysig o fy mywyd proffesiynol. 'Dw i wastad yn meddwl am yr Urdd fel dyma le dechreuodd o'i gyd.
Disgrifiwch y profiad o gystadlu yn yr Eisteddfod i berson o'r gofod.
Roedd pawb wastad yn nerfus. Pwy fyddai ddim? Ond, dyna pam yr oeddem ni yno. Mae'n brofiad arbennig iawn cael cystadlu gyda gorau'r wlad mewn unrhyw ffordd. Mae'n dangos bod ni gyd yn ceisio gwneud yr un peth!
Ydy'r profiad o gystadlu wedi bod o fudd yn eich bywyd proffesiynol?
Dwi'n credu y byddai unrhyw un yn cytuno ein bod ni wedi dysgu lot o gael y profiad.
Mae perfformio yn rhywbeth unigryw sy'n cael ei ehangu gan berfformio gydag eraill. Mae mor bwysig dysgu sut mae eraill yn gweithio. 'Da ni'n lwcus i gael y profiad mor ifanc heb ormod o bwysau yma yng Nghymru.
Pa gystadleuaeth newydd hoffech chi weld yn rhan o'r Eisteddfod?
Mwy o gerddoriaeth fodern. Mae e'n digwydd ond mae mwy wastad yn well!
Unrhyw argymhellion ar gyfer y rheiny fydd yn ymweld â'r Eisteddfod ond sydd ddim yn gyfarwydd â'r ardal?
Cymerwch cymaint allan o'r ddinas ag y gallwch chi! Dyma ein prifddinas ac mae'n amser i ddathlu. Mae'r iaith yn tyfu bob blwyddyn yma.
Beth, yn eich barn chi, yw'r peth gorau am yr Urdd?
Mae'n gyfle i bawb i fynegi ei hun mewn lle diogel, cefnogol. Ma' rhaid i ni edrych ar ôl ein gilydd a mwynhau'r gwahaniaethau, prydferth, tebyg rhyngom ni.
Mae e hefyd yn dysgu chi sut i golli, sy'n beth pwysig iawn pan chi'n mynd ymlaen yn y byd actio!
Huw Stephens fydd Llywydd y Dydd ddydd Mawrth.
Straeon perthnasol
- Cyhoeddwyd27 Mai 2019
- Cyhoeddwyd26 Mai 2019
- Cyhoeddwyd15 Mai 2019
- Cyhoeddwyd3 Mai 2019