Carcharu dyn am droseddau rhyw yn erbyn plant yn y 60au
- Cyhoeddwyd
Mae dyn 70 oed o Sir Gâr wedi cael ei garcharu am chwe blynedd a hanner am droseddau rhyw yn erbyn plant sy'n dyddio 'nôl i'r 1960au.
Cafodd David Allen Davies o Bontyberem ei ddedfrydu yn Llys y Goron Abertawe ddydd Iau am y troseddau yn erbyn dau blentyn.
Roedd eisoes wedi'i gael yn euog gan reithgor o 13 cyhuddiad ar 8 Ebrill.
Clywodd y llys bod Davies, sy'n cael ei adnabod yn lleol fel Dai Love a Dai Trout, wedi cael ei arestio ym mis Gorffennaf 2016 ar ôl i un o'r dioddefwyr fynd at yr heddlu i adrodd y gamdriniaeth.
Saith ac wyth oed
Fe ddigwyddodd y troseddau bron i 50 mlynedd yn ôl, pan oedd y dioddefwyr yn saith ac wyth oed.
Clywodd y llys bod Davies wedi talu un o'r merched i berfformio gweithred rhyw arno, a bod y troseddau wedi digwydd yn ei dai ym Mhontyberem a Chaerfyrddin.
Mae Heddlu Dyfed-Powys yn annog unrhyw un arall gafodd eu cam-drin yn rhywiol gan Davies i gysylltu â'r llu.
Bydd Davies ar y gofrestr troseddwyr rhyw am weddill ei oes.