Technoleg newydd o Gaerdydd i helpu diogelwch meysydd awyr?

  • Cyhoeddwyd
y camera
Disgrifiad o’r llun,

Mae'r dechnoleg yn gallu canfod gwres o bellter sy'n ddwywaith pellter y lleuad o'r Ddaear

Mae astroffisegwyr ym Mhrifysgol Caerdydd wedi datblygu technoleg newydd sy'n gallu adnabod pobl ac anifeiliaid yng nghefn cerbydau sy'n teithio ar gyflymder hyd at 100mya.

Mae'r dechnoleg yn gweithio trwy ddefnyddio synwyryddion sy'n cofnodi newidiadau bychain mewn ymbelydredd a gwres.

Cafodd y synwyryddion eu dylunio'n wreiddiol i weld y sêr pellaf.

Dywedodd Prifysgol Caerdydd y gallai'r dechnoleg - sy'n cael ei dwyn i'r farchnad gan Sequestim Ltd - gyflymu systemau diogelwch meysydd awyr a phorthladdoedd ledled y byd.

Disgrifiad o’r llun,

Dim llawer i'w weld yma - ond mae'r offer tu fewn yn gallu gweld yn bell

Mae camera'r sganiwr yn defnyddio synwyryddion i ganfod yr hyn sy'n cyfateb i wres bwlb golau 100W o bellter o hanner miliwn milltir - dwywaith pellter y lleuad o'r Ddaear.

Er enghraifft, mae'n bosib i'r dechnoleg nodi siapiau o ffigyrau sydd wedi'u cuddio yng nghefn lori sy'n symud heibio synhwyrydd ar gyflymder hyd at 100mya.

Dywedodd cwmni Sequestim eu bod nhw'n trafod gyda buddsoddwyr posib ar hyn o bryd, gyda'r gobaith o werthu'r unedau cyntaf i gwsmeriaid yn 2020.