Cynnal taith y Carten100 fis ar ôl ei gohirio gan storm

  • Cyhoeddwyd
SeicloFfynhonnell y llun, Getty Images
Disgrifiad o’r llun,

Mae'r daith yn dechrau yng Nghaerdydd ac yn gorffen yn Ninbych-y-pysgod

Bydd taith seiclo 100 milltir yn cael ei chynnal ddydd Sadwrn, dros fis ar ôl i'r digwyddiad gwreiddiol gael ei ohirio oherwydd tywydd garw.

Roedd rhaid gohirio'r Carten100 ym mis Ebrill oherwydd effaith Storm Hannah.

Dywedodd y trefnwyr ar y pryd nad oedd hi'n ddiogel cynnal y ras yn y fath amgylchiadau, ond mae'r digwyddiad nawr yn cael ei gynnal fore Sadwrn.

Fe wnaeth y daith, sy'n dechrau yng Nghaerdydd ac yn gorffen yn Ninbych-y-pysgod, ddenu tua 2,500 o gystadleuwyr y llynedd.

Mae'r daith, sydd yn ei 15fed blwyddyn erbyn hyn, wedi codi dros £1m i elusennau ers ei sefydlu.