Gohirio cais i chwilio am nwy ac olew ym Mae Ceredigion
- Cyhoeddwyd
Mae Llywodraeth y DU wedi dweud y bydd yna oedi cyn bod penderfyniad yn cael ei wneud ynglŷn â chais cwmni i chwilio am olew a nwy oddi ar arfordir Bae Ceredigion.
Roedd cwmni Eni UK wedi gofyn am ganiatâd i gynnal archwiliad rywbryd rhwng 1 Mehefin a 30 Medi - gwaith fyddai'n para 40 diwrnod.
Ond daeth cadarnhad gan yr Adran Fusnes, Ynni a Strategaeth Ddiwydiannol (BEIS) ddydd Gwener fod y gwaith o asesu'r cynllun "wedi ei ohirio, a hynny ar gais Eni UK".
Roedd cadwraethwyr yn dweud y gallai'r gwaith ladd mamaliaid ifanc yn yr ardal gadwraeth.
Fe wnaeth AS Preseli Penfro, Stephen Crabb ofyn i BEIS ymyrryd, gan ddweud fod prydferthwch arfordir Penfro a'r bywyd gwyllt sydd yno yn ei gwneud yn ardal "gwbl anaddas ar gyfer y cynllun".
'Arolwg daearegol'
Mewn ymateb i Mr Crabb dywedodd yr Ysgrifennydd Ynni, Greg Clark fod Eni UK wedi gofyn i'r gwaith o asesu eu cais gael ei atal am y tro.
Ychwanegodd: "Fe allaf eich sicrhau na fydd caniatâd yn cael ei roi pe bai'r cynigion yn cael unrhyw effaith sylweddol ar arfordir Penfro a'r bywyd gwyllt yno mewn unrhyw fodd.
"Rwyf wedi gofyn i fy swyddogion i'ch hysbysu os bydd yna unrhyw ddatblygiadau pellach."
Fe wnaeth Eni UK gais am ganiatâd gwreiddiol i gynnal arolwg daearegol 'nôl ym mis Mawrth, fyddai'n cynnwys tanio tonnau sŵn uchel allan o wn tanddwr.
Ychwanegodd llefarydd ar ran BEIS y bydd y cynnig yn destun ymgynghoriad gyda Chyfoeth Naturiol Cymru a'r Cydbwyllgor Cadwraeth Natur.
Straeon perthnasol
- Cyhoeddwyd22 Mai 2019